Larfa Chwilen Datws Colorado wedi’i ganfod yng Nghaint

Mae larfa chwilen a ganfuwyd mewn cae yng Nghaint Ddydd Mawrth 11eg Gorffennaf wedi’i gadarnhau gan DEFRA a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) fel chwilen datws Colorado.

Mae chwilen datws Colorado yn fygythiad sylweddol i gnydau tatws. Mae’r chwilod a’r larfa’n bwydo ar ddail y tatws a phlanhigion blodeuol eraill, a gallant eu stripio’n llwyr o’u dail os na chânt eu rheoli.

Nid yw’r chwilen yn endemig i’r DU ac ar hyn o bryd mae’n cael ei rheoleiddio fel pla cwarantin Prydeinig, a dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chanfod yn y DU ers 1977.

Mae ffermwyr a thyfwyr yn arbennig yn cael eu hannog i gadw golwg am arwyddion o’r pla. Mae’r chwilen yn un lliw melyn neu oren llachar gyda streipiau du, ac mae hi fel arfer rhwng 8.5-11.5mm o hyd a 3mm o led. Mae ei larfa yn lliw brown cochlyd, yn grwn a globylog, ac mae hyd at 15mm o hyd.