Clinigau cyngor un-i-un Cyswllt Ffermio

Bellach, gall ffermydd sydd wedi cofrestru efo Cyswllt Ffermio wneud cais am glinigau cyngor ar y fferm sydd wedi’u hariannu’n llawn.

Y clinigau sydd ar gael ar hyn o bryd yw:

  • Clinig Priddoedd – cyfle i gael 4 sampl pridd, ac ar ôl derbyn y canlyniadau, cael cyngor ar wella ansawdd y pridd
  • Clinig Dŵr – cyfle i gael 2 sampl o’ch prif gyflenwad dŵr, ac ar ôl derbyn y canlyniadau, cael cyngor ar nodi unrhyw halogiad dŵr a sut i’w leihau

Gall busnesau wneud cais am hyd at ddau glinig, a fydd yn cael eu darparu gan ymgynghorwyr annibynnol, a bydd yr holl gyngor yn gyfrinachol.

I gofrestru diddordeb yn y clinigau, ewch i: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/clinigau-un-i-un-ar-y-fferm-gan-cyswllt-ffermio