Dirymu’r Parth Atal Ffliw Adar

Cafodd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ei ddirymu ar 4ydd Gorffennaf 2023 ac nid yw bellach ar waith. 

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi cyhoeddi bod y risg o ffliw adar wedi gostwng i lefel ‘isel’ erbyn hyn ar gyfer dofednod o bob math. O ganlyniad, mae’r gofynion gorfodol wedi dod i ben.

Er bod y risg wedi lleihau, mae achosion diweddar yn golygu nad yw’r bygythiad wedi diflannu, a rhaid i ffermwyr a chynhyrchwyr barhau i fod yn wyliadwrus.

Mae achlysuron lle mae dofednod yn ymgasglu, megis mewn ffeiriau, sioeau a marchnadoedd wedi’u gwahardd o hyd, am fod nifer fawr o heidiau’n cymysgu â’i gilydd, gan olygu bod yna risg o heintiau’n lledaenu ar draws y wlad.