Cyswllt Ffermio’n chwilio am ffermwyr i siapio’r rhaglen cyn cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae Cyswllt Ffermio am benodi 10 ffermwr i sefydlu Grŵp Llywio Ffermwyr i helpu i siapio dyfodol y rhaglen cyn dechrau cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Fel rhan o’r grŵp, bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i roi adborth ar y gwasanaethau a ddarperir gan Cyswllt Ffermio, gan awgrymu ffyrdd o gyrraedd mwy o fusnesau ffermio yn y dyfodol.

Bydd y rhaglen yn parhau i gynorthwyo’r diwydiant tan 31ain Mawrth 2025, cyn cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y Grŵp Llywio’n cwrdd pedair gwaith, a bydd ffermwyr yn cael eu recriwtio ledled Cymru, o wahanol sectorau a lleoliadau.

Mae’r ffenestr ymgeisio’n cau ar 31ain Gorffennaf 2023. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.