Mae UAC yn cynnal nifer o seminarau yn ystod 4 diwrnod Sioe Frenhinol Cymru a gwahoddir pawb i’w mynychu. Dewch i ymuno â ni ym Mhafiliwn UAC ar faes y Sioe Fawr. Mae’r seminarau fel a ganlyn:-
Bore Llun (11am-12pm) – Holi ac Ateb – Rheoliadau Adnoddau Dŵr NVZ
Dewch i glywed gennym a ble rydyn ni arni o ran y rheoliadau, gan gynnwys cynrychiolwyr o ADAS a Kebek.
Pnawn Llun (3pm-4pm) – Sut all prosiectau ynni adnewyddadwy ar ffermydd helpu i gyrraedd targedau’r dyfodol heb danseilio’r gallu i gynhyrchu bwyd?
Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth gyda Dewi Owen, Julie James AS (Y Gweinidog Newid Hinsawdd), Gareth Parry ac Ed Bailey (Cyfarwyddwr Baileys & Partners).
Pnawn Mawrth (2pm-3pm) – Ymgyrch Nid yn Fy Enw I
Lansiad ymgyrch Nid yn Fy Enw I 2023, lle bydd cyfle i ddysgu am effaith cam-drin ac aflonyddu ar oroeswyr a chymunedau.
Pnawn Mawrth (4pm-5pm) – Iechyd Meddwl a Chymunedau Gwledig gydag UAC a DPJ
Ymunwch â ni wrth inni drafod y cynnydd a wnaed o ran mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl o fewn cymunedau gwledig a’r diwydiant amaethyddol. Bydd y panel yn cynnwys Yr Athro Laura McAllister, Noel Mooney (Prif Weithredwr UAC) a Katie Miles.
Bore Mercher (11am-12pm) – Ymosodiadau gan Gŵn ar Dda Byw: Ble ydyn ni arni?
Ymunwch â ni wrth inni drafod y ffordd orau o atal ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, yn dilyn y tro pedol annisgwyl gyda Bil Anifeiliaid a Gedwir y DU. Yn arbennig, byddwn yn edrych ar rôl tystiolaeth DNA i nodi cŵn pan nad oes tystion i’r drosedd.
Pnawn Mercher (2pm-3pm) – Taliadau Amgylcheddol i ffermwyr – mantais neu rwystr?
Sut allwn ni sicrhau cyllid preifat a chyhoeddus ar gyfer gwaith ‘cyfalaf naturiol’ ar ein ffermydd teuluol a’r broses o gynhyrchu bwyd yng Nghymru, a beth yw’r opsiynau? Bydd ein siaradwyr yn helpu i amlinellu’r cyfleoedd a’r risgiau i ffermwyr yn y farchnad newydd hon.
Bore Iau (10:30am-12:30pm) – Recordiad BYW o’r podlediad Hiraeth
Mae Brexit wedi bod yn un o’r materion mwyaf dadleuol yn hanes ein gwleidyddiaeth, ond beth mae’n ei olygu ar gyfer ffermio? A ydy’r addewidion am lai o reoliadau, bwyd rhatach a chymorthdaliadau tecach wedi’u gwireddu? Beth yw arwyddocâd cytundebau masnach newydd Llywodraeth y DU i Gymunedau Gwledig? Ymunwch â ni a’r podlediad Hiraeth wrth inni drafod hyn a mwy.