Crynodeb o Newyddion Gorffennaf 2023

Cynnydd yn y lefelau cynhyrchu da byw yn fyd-eang dros y ddegawd nesaf

Disgwylir y bydd lefelau cynhyrchu da byw yn fyd-eang yn cynyddu 1.3% bob blwyddyn dros y ddegawd nesaf, yn ôl adroddiad gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r twf rhagamcanol hyd at 2032 yn arafach na’r hyn a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf a disgwylir y bydd tua hanner y twf yn gig dofednod.

Disgwylir y bydd yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynyddu o hanner y twf rhagamcanol o ran cynnyrch, sy’n arwydd o gwymp sylweddol yn nwyster carbon y broses o greu cynnyrch amaethyddol.

 

Diffyg cymorth gan y llywodraeth yn bygwth diogelwch cyflenwad bwyd y DU

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) wedi dweud bod diogelwch cyflenwad bwyd y DU yn cael ei danseilio gan fethiant y llywodraeth i fynd i’r afael go iawn ag argyfwng yr hinsawdd a natur, a chefnogi ffermwyr y DU.

Mae’r adroddiad yn amlinellu sut mae’r hinsawdd newidiol yn cael effaith ar dda byw a chnydau ac yn effeithio ar ein gallu i gynhyrchu bwyd yn y DU.

Mae dadansoddiad yr adroddiad hefyd yn dangos bod y cytundeb masnach a ffurfiwyd ers Brexit yn tanbrisio ffermwyr a nodau hinsawdd, ac i bob pwrpas, yn allforio ôl troed carbon y DU i rannau eraill o’r byd.

 

Seland Newydd yn arwyddo cytundeb masnach rydd â’r UE

Mae Seland Newydd yn disgwyl gweld cynnydd o $1.8 biliwn (£870 miliwn) y flwyddyn yn ei hallforion erbyn 2035 ar ôl arwyddo cytundeb masnach rydd â’r UE yng Ngorffennaf.

Bydd y cytundeb yn golygu arbedion mewn tariffau o $100 miliwn o’r diwrnod cyntaf, ond bydd y tariffau’n parhau ar nifer o gynhyrchion cig a chynnyrch llaeth, gyda mynediad allforio gwell.

Disgwylir y bydd cig coch a chynnyrch llaeth yn cael gwerth hyd at $120m o refeniw allforio blynyddol newydd, a fydd, yn ôl yr amcangyfrifon, yn cyrraedd $600 miliwn erbyn 2030. Mae cwotâu wedi’u sefydlu ar gyfer menyn, caws, llaeth powdwr a phrotein maidd.