UAC yn rhannu pryderon gyda’r Ysgrifennydd Gwladol

Roedd yr ansicrwydd y mae’r diwydiant ffermio yng Nghymru’n ei wynebu a pha gymorth sydd ei angen gan y Llywodraeth ar frig yr agenda, pan gwrddodd Undeb Amaethwyr Cymru â’r Ysgrifennydd Gwladol David TC Davies yn Llundain yn ddiweddar.

Mae cynllun arwyddocaol a fydd yn gosod y mecanwaith talu ar gyfer y diwydiant yn y dyfodol, sef y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn cynnig cyfle i gefnogi’r sector, os derbynnir y pecyn ariannu cywir gan San Steffan. Wrth drafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar droed, pwysleisiodd swyddogion UAC ei bod hi’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru’n dylunio cynllun sydd wir yn gweithio i bob fferm yng Nghymru, ond ei bod hi hefyd yn hanfodol bod y gyllideb ar gael i gyflenwi’r cynllun.

Rhaid i Lywodraeth y DU ariannu ei haddewidion a dangos ei hymrwymiad i amaethyddiaeth yng Nghymru drwy ddarparu’r cyllid angenrheidiol o 2025, y tu allan i Fformiwla Barnett.

Newid arall sy’n wynebu’r diwydiant ar ôl Brexit, sy’n destun pryder, yw’r gofyniad am ddatganiadau milfeddygol ar gyfer allforion i’r UE.

Bydd y rheoliad yn dod i rym ar 13eg Rhagfyr 2023 ac mae’n ymwneud ag allforio anifeiliaid / rhannau anifeiliaid i’r UE.

Er bod y cig ar gyfer marchnad y DU efallai, mae allforio rhannau anifeiliaid, megis y pumed chwarter a’r croen, i’r UE yn golygu bod angen i’r mwyafrif helaeth o ffermwyr, nad ydynt yn perthyn i gynllun Sicrwydd Ffermio, gael datganiad milfeddygol.

Mae UAC wedi mynegi ei phryderon yn glir bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynllun llafurus, heb gydnabod y cyfyngiadau presennol ac anawsterau cael cadwyn dystiolaeth sy’n rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.

Mae UAC o’r farn mai rhagor o ‘oreuro’ rheoliadau UE yw’r gofyniad hwn. Fodd bynnag, o ystyried y bydd y rheoliad hwn yn dod i rym yn ddiweddarach eleni, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a DEFRA yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau bod system yn bodoli i gwrdd â’r gofyniad a’i bod yn addas i’r diben.