Allforion bwyd a diod Cymru’n uwch nag erioed

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod allforion y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi cynyddu o £157 miliwn rhwng 2021 a 2022, sef cynnydd o 24.5%.

Mae hwn yn gynnydd canrannol uwch na’r DU gyfan, a dyfodd o 21.6%. Cig a chynnyrch cig oedd y categori gwerth uchaf, ar £265 miliwn, sef cynnydd o 42% ers 2021, ac yna grawnfwyd a pharatoadau grawnfwyd, a gododd 16% i £160 miliwn.

Adroddodd Hybu Cig Cymru hefyd fod allforion cig dafad ffres ac wedi’i rewi o’r DU wedi perfformio’n dda yn ystod chwe mis cyntaf 2023, gan gofnodi cynnydd o 14% o un flwyddyn i’r llall – tra bod mewnforion wedi gostwng yn sylweddol.