Canllawiau tywydd poeth eithafol ar gyfer ceidwaid da byw, gan gynnwys dofednod

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn atgoffa ceidwaid da byw a dofednod o’r risgiau mewn perthynas â lles anifeiliaid yn sgil y cyfnod hir o dywydd sych.

Mae APHA’n tynnu sylw at y camau allweddol y gellir eu cymryd i leihau effeithiau straen gwres yn ystod tywydd poeth.

Mae rhai o’r camau allweddol yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

Ar gyfer pob rhywogaeth:

  • Dylid bob amser darparu dŵr ffres digonol. Mewn tywydd poeth iawn, mae hyn yn bwysicach fyth, a bydd angen mwy ohono.
  • Os oes yna brinder dŵr neu fod yna amharu ar y cyflenwad, mae’n hanfodol dod i hyd i ffynhonnell ddŵr arall ddiogel ac addas cyn gynted â phosib.
  • Dylid cadw golwg ar dda byw yn fwy rheolaidd, heb amharu arnynt yn ormodol, gan gymryd camau i ofalu am eu hiechyd a’u lles, a gofyn cyngor pellach gan eich milfeddyg preifat fel bo angen.
  • Dylid mabwysiadu strategaethau maeth dan gyngor y milfeddyg, all gynnwys y defnydd o ychwanegion yn y dŵr.
  • Dylid sicrhau bod y pibellau dŵr yn cael eu cadw’n lân ac yn rhydd o rwystrau.

Mae yna gamau allweddol pellach ar gyfer anifeiliaid sy’n pori/a gedwir dan do, ac ar gyfer dofednod a moch. Am gopi, e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Fel rhan o gyfres ddigidol y Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (CIWEM), bu UAC yn cymryd rhan mewn gweminar yn ddiweddar a roddodd drosolwg o’r modd y rheolir tywydd sych yng Nghymru, a synopsis o’r uchafbwyntiau hydrolegol a threfn ddigwyddiadau 2022. Mae’r weminar ar gael i’w gwylio yma: https://www.youtube.com/watch?v=0tlB84gwnbo 

Mae’r canllawiau canlynol ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru: