Cyhoeddi cyfraddau talu uwch ar gyfer creu coetir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y taliadau am greu coetir yn cael eu codi i dalu 100% o gostau gwirioneddol 2023.

Bydd y cyfraddau uwch yn berthnasol i’r Grant Creu Coetir a Grantiau Bach - Creu Coetir, gyda’r ffenestr ymgeisio nesaf ar gyfer y ddau gynllun yn agor ar 24ain Gorffennaf 2023.

Mae’r cyfraddau talu wedi codi ar gyfer gwaith cyfalaf a gwaith ffensio cysylltiedig.

 

Hen gyfraddau talu (£)

Cyfraddau talu newydd (£)

Categori Coetir

 

 

Gwaith Cyfalaf – Coetir Cymysg Gwell

3,600

5,146

Cyfalaf - Coetir Brodorol - Carbon

4,500

6,170

Gwaith Cyfalaf – Coetir Brodorol (1,600)

3,000

4,550

Gwaith Cyfalaf – Coetir Brodorol (1,100)

2,100

3,302

Ffensio

 

 

Ffensio postyn a weiar gyda netin stoc

5.56

8.32

Ffensio Ceirw

 

11.93

Gatiau

 

 

Gât safonol metel

52

221.00

Gât safonol pren caled

236

669.41

Gât safonol pren meddal

150

291.75

Gât ceffyl o bren

151.44

220.83

Gât mochyn o bren

181

237.80

 

Mae’r taliadau cynnal a chadw wedi codi, o £60 yr hectar y flwyddyn dros 12 mlynedd i’r taliadau canlynol (ac eithrio ar gyfer yr opsiwn amaeth-goedwigaeth).

 

Bl1

Bl2

Bl3

Bl4

Bl5

Bl6

Bl7

Bl8

Bl9

Bl10

Bl11

Bl12

£400

£300

£250

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70

£70