Arolwg o effeithiau twbercwlosis gwartheg ar iechyd a lles

Mae’r Rhwydwaith Cymuned Ffermio (FCN) yn chwilio am ffermwyr i gwblhau arolwg, i’w helpu i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau twbercwlosis gwartheg (bTB) ar iechyd a lles ffermwyr.

Nod yr astudiaeth yw archwilio effeithiau emosiynol, ariannol a chorfforol bTB ac effeithiau hirdymor y rhain ar y ffermwr, y teulu a’r busnes fferm.

Mae’r astudiaeth hefyd yn gobeithio clywed am brofiadau ffermwyr o bolisïau’r llywodraeth i reoli a dileu bTB.

Nod yr elusen yw dod i ddeall yn well sut mae ffermwyr a theuluoedd ffermio’n gweld y bygythiad o bTB – i’w helpu i wella’r cymorth a roir i’r rhai sy’n wynebu risg neu wedi’u heffeithio gan achos o bTB.

I gymryd rhan yn yr astudiaeth mae FCN wedi lansio arolwg sydd ar agor ar gyfer ymatebion tan ganol Awst. I gwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu Saesneg ewch i:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/5NW7D8V  (Cymraeg)

https://www.surveymonkey.co.uk/r/3HG5YFG  (Saesneg)

Mae’r elusen hefyd yn gwahodd y rhai sy’n llenwi’r arolwg i gymryd rhan mewn cyfweliad dewisol ar ffurf hirach o fis Medi ymlaen.