Lansiwyd Strategaeth Lles Gwartheg Llaeth y DU ar 6ed Mehefin, a luniwyd gan y Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil gyda chefnogaeth llu o arweinwyr a sefydliadau’r diwydiant, ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan.
Mae’r Strategaeth Lles Gwartheg Llaeth newydd y DU wedi’i chreu ar gyfer 2023-2028, ac mae wedi’i chynllunio i helpu’r diwydiant i sicrhau cynnydd mewn perthynas â lles anifeiliaid erbyn 2028.
Mae chwe nod strategol a geir yn y strategaeth fel a ganlyn:
- Buchod ffyniannus – sicrhau bod anifeiliaid llaeth yn cael eu bridio, eu magu, ac yn cael y gofal sydd ei angen i ffynnu o fewn pob system
- Traed iach – sicrhau bod yna gynllun rheoli cloffni yn ei le ac ar waith ar bob fferm laeth yn y DU
- Buchod cyfforddus – sicrhau bod y fuwch mor gyfforddus â phosib, dan do ac allan yn pori
- Buchod maethlon - sicrhau cyflwr corff iach trwy gydol y flwyddyn
- Pwrs/cadair iach - gwella iechyd y pwrs/cadair yn barhaus i leihau achosion o fastitis
- Llesiant cadarnhaol – symud tuag at ‘lesiant cadarnhaol’ drwy ddarparu amgylchedd sy’n caniatáu i anifeiliaid ymddwyn yn naturiol, megis bod yn chwilfrydig neu chwarae
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://ruminanthw.org.uk/uk-welfare-strategies/dairy/