Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio gyda’r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth, ar Gampws Gelli Aur ger Llandeilo, i osod Gorsafoedd Tywydd ar ffermydd o fewn dalgylch yr afon Cleddau.
Mae’r gorsafoedd newydd yn dilyn treial yn cynnwys 10 gorsaf dywydd, chwech yn nalgylch yr afon Tywi fel rhan o’r prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cefnogi Adfer Natura 2000, a phedair wedi’u hariannu gan Dŵr Cymru o fewn dalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg.
Mae’r gorsafoedd tywydd yn darparu data amser real ar leithder y pridd, tymheredd y pridd, a lleithder dail, sy’n allweddol mewn perthynas â thwf glaswellt a dodi maethynnau a chemegau priodol.
Maent hefyd yn rhoi’r amodau tywydd lleol a rhagolygon y tywydd. Bydd yr wybodaeth hon yn caniatáu i ffermwyr ddodi maethynnau ar y tir ar yr adeg iawn i sicrhau’r twf gorau, ac i leihau’r perygl bod gormod o faethynnau’n mynd i mewn i’r afon.
Mae’r data a gesglir gan y gorsafoedd tywydd yn cael ei fwydo i gronfa ddata ganolog, sydd ar gael i unrhyw un drwy borthol ac ap ffôn symudol, ac mae’r wybodaeth ar ffurf system goleuadau traffig hawdd ei deall.
Mae defnydd o’r fath o orsafoedd tywydd yn un ateb yn unig o blith llu o atebion technolegol i’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 a gyflwynodd UAC i Lywodraeth Cymru ym Medi 2022.
Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ap ewch i https://arc-csg.cymru/tywydd-tywi-weather-app/