Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC yn croesawu egwyddor Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) Cymru

Yn ystod cyfarfod diweddar o Bwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, roedd y mynychwyr yn teimlo y byddai Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) Cymru yn hybu’r arferion da y mae nifer o fusnesau prynu llaeth yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig wedi’u datblygu a’u gweithredu ers cyflwyno’r Cod Llaeth Gwirfoddol yn 2012.

Croesewir y ffaith bod y rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno i atal busnesau prynu llaeth di-egwyddor rhag camddefnyddio’u sefyllfa, ac ecsbloetio ffermwyr llaeth gyda phenderfyniadau busnes dan din, a chontractau gyda mannau gwan.

Mae nifer o’r pryderon, a’r sylwadau a wnaed gan y pwyllgor, wedi’u cynnwys yn yr Offeryn Statudol hwn, a fydd yn helpu i ddiogelu ffermwyr llaeth rhag arferion annheg.

Fodd bynnag, roedd y pwyllgor o’r farn na fyddai’r rheoliadau’n gwneud fawr ddim i wella sefydlogrwydd ariannol o fewn diwydiant llaeth anwadal, lle mae’r pris a delir am laeth yn drwm dan ddylanwad marchnadoedd domestig a byd-eang fel ei gilydd. Mi fydd proses gyfreithiol fiwrocrataidd ychwanegol, gyda chytundebau’n cael eu haddasu er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau pan ddônt i rym, yn gost arall a wynebir gan y diwydiant.

Mae yna amheuon o hyd ynghylch sgôp y rheoliadau a pha mor effeithiol y byddan nhw mewn gwirionedd o ran darparu ffermwyr â phris teg am eu llaeth, yng ngoleuni marchnadoedd heriol sy’n newid yn gyflym.

Bwriad y rheoliadau hyn yw hyrwyddo busnes teg rhwng cynhyrchwyr llaeth a phrynwyr. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen gwaith pellach i wella’r berthynas waith a hyrwyddo masnachu teg mewn perthynas â llaeth ar hyd y gadwyn cyflenwi llaeth gyfan.

Mae angen i ffermwyr llaeth ddeall yn glir yr angen i fynnu cyngor cyfreithiol cyn arwyddo unrhyw gytundeb prynu llaeth, a’u hawliau i drafod manylion amrywiol y cytundeb, a pheidio â derbyn unrhyw gontract status quo heb ystyriaeth drylwyr.

Bydd yr Offeryn Statudol Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2023 yn cael ei gyflwyno gerbron San Steffan ar ôl seibiant yr haf, a disgwylir y bydd yn dod i rym o fewn 24 mis.