Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) wedi’i basio yng Nghyfnod Pedwar gan y Senedd. Cafodd y Bil, sy’n garreg filltir bwysig, gymeradwyaeth Seneddol yn ystod y cyfnod craffu olaf ar 27ain Mehefin, wrth i gynrychiolwyr o UAC wylio o’r oriel gyhoeddus.
Mae UAC wedi mynnu trwy gydol taith y Bil y dylid gwneud nifer o welliannau - gan gynnwys, man lleiaf, gwneud hyfywedd economaidd amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn amcan allweddol, er mwyn cadw diwydiant ffermio gwirioneddol gynaliadwy.
Er bod yr undeb o’r farn y gallai’r Bil fod wedi mynd yn bellach o lawer, mae wedi bod yn fodlon gyda nifer o’r gwelliannau a dderbyniwyd, y rhan fwyaf ohonynt mewn meysydd y bu UAC yn lobïo drostynt.
Unwaith y bydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol, bydd y garreg filltir ddeddfwriaethol hon yn darparu fframwaith ar gyfer cymorth amaethyddol pellach yng Nghymru, ac mae UAC wedi mynnu, ers cyflwyno’r Bil, y dylai hyfywedd economaidd busnesau amaethyddol a ffermydd teuluol fod yn amcan clir yn y ddeddfwriaeth o ran Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Er y byddai UAC wedi hoffi gweld y newidiadau’n mynd ymhellach, mae’n ddiolchgar i’r holl Aelodau hynny o’r Senedd a weithiodd gyda’r undeb i symud i Bil i gynnwys cydnabyddiaeth o hyfywedd economaidd, ac a helpodd i sicrhau newidiadau eraill pwysig, megis y gofyniad am gynllun ariannol amlflwydd.
Roedd yr Undeb yn parhau i fod yn siomedig bod gwelliannau a gyflwynwyd i gynnwys cymorth penodol ar gyfer ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn aflwyddiannus, oherwydd er mwyn cael diwydiant cynaliadwy a ffyniannus, rhaid agor y drysau i newydd-ddyfodiaid.
Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu bod newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc wedi’u heithrio dan y ddeddfwriaeth, ac mae gwelliant a dderbyniwyd yn ddiweddar yn hwyluso opsiynau i gynorthwyo unigolion a busnesau o’r fath.
Mae’r ddeddfwriaeth hon yn anhygoel o bwysig i’r diwydiant amaeth yng Nghymru a dyma’r tro cyntaf i Gymru allu deddfu yn y modd hwn.
Disgwylir yr ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cael ei roi ar waith dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru), ar ddiwedd y flwyddyn.
Bydd UAC yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd i sicrhau bod lleisiau ffermydd teuluol Cymru’n cael eu clywed yn ystod y datblygiad polisi hanfodol hwn.