Rhaid i bolisïau sero net ystyried y goblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol - medd UAC wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd

Mae swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru wedi cwrdd â’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Deben (John Gummer), Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd (PNH) a Dr Nikki Rust, Pennaeth Natur, Tir ac Amaethyddiaeth y PNH, i drafod y rôl a chwaraeir gan amaethyddiaeth o fewn polisïau sero net y dyfodol.

Gwnaeth UAC nifer o awgrymiadau a chododd nifer o bryderon mewn perthynas â chyrraedd sero net – rhai a rannwyd gan yr Arglwydd Deben a Dr Rust ar ran y PNH. 

Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys peryglon allyriadau alltraeth yn sgil cytundebau masnach a bwyd wedi’i fewnforio, yr angen am bontio ystyriol wedi’i gyllido ar gyfer ffermwyr, cynigion cymeriant cig a chynnyrch llaeth, plannu coed, carboniaduron, a’r angen am arferion ffermio carbon isel sy’n gwneud synnwyr busnes i ffermwyr.

Pwysleisiodd UAC yr angen am ffordd gytbwys ymlaen, a fydd yn sicrhau bod polisïau sero net yn ystyried y goblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, heb ildio i ‘feddylfryd carbon cul’ , yn enwedig mewn perthynas â phlannu coed at ddibenion gwrthbwyso carbon.

Pwysleisiodd swyddogion yr Undeb yn ogystal fod yn rhaid i’r newid radical i fudd-daliadau a pholisïau ffermio gael ei baratoi’n iawn, ac mewn ffordd gytbwys, i sicrhau eu llwyddiant ac i ddarparu sicrwydd - o ran y nod o liniaru effeithiau newid hinsawdd yn ogystal ag ar gyfer ffermwyr.

Mae UAC wedi galw ar Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro i fabwysiadu meddylfryd o esblygu yn hytrach na chwyldro wrth newid y cynlluniau presennol, gan ddarparu sefydlogrwydd a phontio sydd wedi’i gyllido’n llawn i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd UAC yn parhau i weithio gyda nhw mewn partneriaeth, ac mae’n llwyr gydnabod yr her o gyrraedd targed cyllideb garbon nesaf Llywodraeth Cymru, sef lleihau allyriadau o 58% erbyn 2030.

Cododd swyddogion yr undeb y mater o archwiliadau carbon, a’r angen am safoni a chymhelliannau i annog ffermwyr i gymryd rhan.

Rhaid i garboniaduron ac archwiliadau carbon ddarparu gwybodaeth ystyrlon ac ymarferol i ffermwyr, heb yr angen am ymgynghorwyr bob cam o’r ffordd. Mae lefelau enfawr o ddata’n cael eu casglu eisoes gan Lywodraeth Cymru ar draws RPW Ar-lein, EID Cymru, BCMS, ac mewn perthynas â’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr a gyflwynwyd yn ddiweddar.

Mae UAC o’r farn y gellid gwneud gwell defnydd o wybodaeth o’r fath i helpu i egluro lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermydd a’u gallu i ddal a storio carbon.

Manteisiodd UAC ar y cyfle hefyd i atgoffa’r PNH mai eu cyngor oedd cynnal lefelau cynhyrchu bwyd y DU i helpu i atal allyriadau alltraeth. 

Gwnaeth UAC hi’n glir eto yn y trafodaethau bod hyn yn gyfle allweddol i ffermwyr Cymru o ran cyrraedd sero net, yn enwedig yn sgil gallu ffermio yng Nghymru i fod yn gynaliadwy, a’r cysylltiadau rhwng bioamrywiaeth â chynhyrchu cig oen a chig eidion Cymreig.