41,000 o ffermwyr Iwerddon yn gwneud cais am gymhorthdal calch i helpu’r amgylchedd

Mae 41,000 o ffermwyr yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi gwneud cais am gymhorthdal ar gyfer costau calch dan Raglen Galchu Genedlaethol newydd Llywodraeth Iwerddon.

Cafodd y rhaglen ei chyflwyno gan Adran Amaeth, Bwyd a’r Môr y Weriniaeth i gymell y defnydd o galch, sy’n gyflyrydd pridd naturiol.  Mae calch yn cywiro asidedd priddoedd drwy niwtraleiddio’r asidau sy’n bresennol yn y pridd, cynyddu’r cymeriant nitrogen (N) a gweithgaredd microbaidd y pridd, yn ogystal â datgloi ffosfforws (P) a photasiwm (K) y pridd.

Mae treialon wedi dangos bod cynyddu pH y pridd i’r lefelau optimwm yn arwain at ostyngiad sylweddol yn yr allyriadau Ocsid Nitrus (N2O), gan gynyddu maint y glaswellt a chnydau eraill ar yr un pryd.

Mae cymhorthdal Iwerddon o €16 fesul tunnell (£14 fesul tunnell) o galch ar gyfer isafswm o 10 tunnell o galchfaen mâl ac uchafswm o 200 tunnell, yn anelu at leihau defnydd Iwerddon o wrtaith cemegol a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd y sector Gwyddelig.

Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Aberystwyth ac UK Environment Systems yn awgrymu bod asideiddio porfeydd ucheldir Cymru, oedd yn cael eu calchu gynt, yn ffactor perygl llifogydd posib sydd wedi’i esgeuluso, am fod asideiddio’n lleihau niferoedd pryfed genwair/mwydod, gan olygu bod llai o ddŵr yn treiddio i’r pridd.

Canfu ymchwilwyr a fu’n archwilio tir yng Nghymru lle na ddodwyd unrhyw galch am gyfnodau o rhwng dwy a 30 mlynedd bod yna ostyngiad chwephlyg yn y cyfraddau ymdreiddiad dŵr rhwng priddoedd pH uchel ac isel; tuedd oedd yn cydberthyn i’r cwymp yn y nifer o bryfed genwair/mwydod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymwrthod â galwadau gan UAC yn y gorffennol i gyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru dan y Rhaglen Datblygu Gwledig.