Dylai Bil Amaethyddiaeth (Cymru) fod wedi mynd ymhellach, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi mynegi ei siom am rai o’r cyfleoedd a gollwyd gyda Bil Amaethyddiaeth (Cymru), wrth iddo fynd drwy’r broses graffu olaf ond un ar Ddydd Mawrth 16 Mai.

Roedd cynrychiolwyr o UAC yn yr oriel i wylio Aelodau’r Senedd yn trafod gwelliannau a gyflwynwyd ar hyfywedd economaidd, cymorth i newydd-ddyfodiaid, ac effeithlonrwydd ynni.

Bydd y ddeddfwriaeth nodedig hon yn darparu’r fframwaith ar gyfer cymorth amaethyddol yn y dyfodol yng Nghymru, a dyma’r tro cyntaf i Gymru ddeddfu yn y ffordd yma.  Ers cyflwyno’r Bil, mae UAC wedi dadlau bod peidio â chynnwys hyfywedd economaidd busnesau amaethyddol a ffermydd teuluol yn yr amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn bryder mawr.

Mae UAC wedi gweithio’n galed i sicrhau bod busnesau amaethyddol yn cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i’r economi leol, ac mae hyn wedi arwain at nifer o newidiadau positif i’r Bil.  Fodd bynnag, mae UAC wedi galw’n gyson am gynnwys amcan economaidd i sicrhau bod yna ddyfodol i fusnesau fferm, neu fel arall ni fydd modd gwireddu dyheadau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach y Bil.

Pleidleisiodd y Senedd hefyd i gynnwys cynllun cymorth amlflwydd a fyddai’n darparu gwybodaeth am y ffordd mae Gweinidogion Cymru’n bwriadu darparu cymorth ariannol.  Mae hwn yn un o’r pethau allweddol y mae UAC wedi galw amdano ac mae’n ddarpariaeth sy’n bodoli o fewn Deddf Amaeth y DU.  Mae cynnwys y gwelliant hwn yn rhoi ffermwyr yng Nghymru mewn sefyllfa gyfartal â rhai Lloegr, ac mae’n rhoi rhywfaint o eglurder i ffermwyr wrth iddyn nhw gynllunio dyfodol eu busnesau.

Fodd bynnag, mae UAC yn siomedig bod y gwelliannau a gyflwynwyd i gynnwys cymorth penodol ar gyfer ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn aflwyddiannus. 

Er mwyn cael diwydiant cynaliadwy a ffyniannus, rhaid agor y drws i rai sydd am ymuno â’r diwydiant, ac mae’r diffyg gwelliannau yn hyn o beth yn gyfle coll.  Am fod y cyfle wedi’i golli, mae’n bwysicach nag erioed bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gael i bob ffermwr, gan gynnwys ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid.

Bydd y Bil nawr yn symud i Gam 4 y craffu yn y Senedd ac os caiff ei basio, bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.