UAC yn croesawu’r prosiect ‘Profi a Thrin’ cyntaf yng Nghymru ar gyfer y Clafr

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu lansiad y prosiect ‘Gwaredu Scab’, sy’n anelu at leihau nifer yr achosion o’r clafr ar draws Cymru, drwy gynnig cyllid i ganfod a thrin defaid sydd wedi’u heintio.

Mae Gwaredu Scab yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda £1.5 miliwn wedi’i glustnodi bob blwyddyn am o leiaf dwy flynedd.  Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan Coleg Sir Gâr, yn cynnig gwasanaeth cyfan am ddim, o’r diagnosis i’r broses o drin y ddiadell gyfan.

Mae UAC wedi disgwyl yn eiddgar am lansiad y prosiect Gwaredu Scab ers y cyhoeddiad ynghylch ariannu prosiect o’r fath gan y Gweinidog Materion Gwledig yn Ionawr 2019.

Mae’r clafr yn glefyd hynod heintus sydd â goblygiadau sylweddol o ran lles, yn ogystal â goblygiadau economaidd i ffermydd a effeithir, a bydd lleihau nifer yr achosion o’r clefyd hwn yng Nghymru o fudd enfawr i’r diwydiant.

Achosir y clafr gan y gwiddonyn parasitig Psoroptes ovis ac mae’n trosglwyddo’n hawdd o un ddiadell i’r llall.  Mae arwyddion clinigol o’r haint yn cynnwys ychydig, neu lawer o grafu a chosi, colli gwlân,  briwiau ar y croen, colli pwysau ac, mewn achosion difrifol, marwolaeth.  Fodd bynnag, nid yw’r arwyddion clinigol ynddyn nhw’u hunain yn ddigon i wneud diagnosis o’r clefyd, a gellir ond cadarnhau bod y clefyd yn bresennol drwy grafiadau croen neu brofion gwaed gwrthgyrff.

Un o fuddiannau’r prosiect Gwaredu Scab yw’r defnydd o Swyddogion Technegol i gydlynu’r broses brofi, ac os oes angen, cysylltu â ffermydd cyfagos, i leihau’r posibilrwydd o’r clefyd yn lledaenu o un fferm i’r llall.

Gall methu â thrin anifeiliaid ar yr un pryd â’ch cymdogion olygu bod anifeiliaid yn cael eu hail-heintio, oherwydd gall gwiddonyn y clafr gael ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol â defaid neu wrthrychau sydd wedi’u heintio, a gall methu â thrin mewn dull cydlynol felly arwain at wastraffu llawer iawn o arian ac amser.

Mae UAC yn cydnabod y pryderon sy’n bodoli ynghylch dipio a’r cyfnod cadw’n ôl yn dilyn y driniaeth.  Fodd bynnag, mi fydd cymryd rhan lawn yn y prosiect hwn yn helpu i amddiffyn iechyd a lles diadell genedlaethol Cymru, ac mae UAC yn annog ffermwyr sy’n amau bod ganddynt achos o’r clafr i ymgysylltu â’r prosiect hwn i glirio’r haint o’u diadell a lleihau’r perygl o ail-heintio.