Crynodeb o Newyddion Mai 2023

Y Comisiwn Ewropeaidd yn mabwysiadu mesurau eithriadol dros dro ar gyfer mewnforion o Wcráin

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi mabwysiadu mesurau eithriadol dros dro ar gyfer mewnforio 4 cynnyrch amaethyddol (gwenith, india-corn, had rêp a had blodau’r haul) sy’n tarddu o Wcráin ac yn cael eu hallforio i bum gwlad gyfagos.

Nod y Comisiwn yw lleihau’r tagfeydd logistaidd sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchion hyn ym Mwlgaria, Hwngari, Gwlad Pwyl, Rwmania a Slofacia.  Daeth y mesurau i rym ar 2 Mai a byddant yn para tan 5 Mehefin, ond mi all y mesurau hyn gael eu hymestyn tu hwnt i’r dyddiad hwn os bydd y sefyllfa’n parhau.

Gall allforion y 4 cynnyrch o Wcráin barhau i weddill yr UE.  O  ganlyniad i’r mesurau, mae Bwlgaria, Hwngari, Gwlad Pwyl a Slofacia wedi codi eu gwaharddiad ar wenith, india-corn, had rep a had blodau’r haul ac unrhyw gynhyrchion eraill sy’n dod o Wcráin.

 

Arwyddion addawol i sector cig eidion Cymru

Mae adroddiad a ryddhawyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi awgrymu bod yna reswm i gynhyrchwyr cig eidion yng Nghymru fod yn optimistaidd.

Roedd y pris cyfartalog yng Nghymru a Lloegr ar gyfer cig eidion yn £4.85 y cilogram ar ddiwedd mis Mawrth.  Mae hyn 17% yn uwch na’r lefelau a welwyd yn 2022, a 33% yn uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.

Serch heriau sylweddol, megis mewnbynnau uwch a’r argyfwng costau byw, sydd wedi arwain at gynnydd o 54% yn y gyfran o gynhyrchion briwgig rhatach, mae’r rhagolygon ar gyfer y 12 mis nesaf yn addawol.

Cododd yr allforion cig eidion Cymreig 20% yn 2022 yn sgil y galw byd-eang am gig eidion.  Mae’r adroddiad hwn yn disgwyl i’r galw hwn barhau yn y dyfodol agos. 

 

 

Y Comisiwn Ewropeaidd yn cymeradwyo cynlluniau’r Iseldiroedd i brynu ffermydd da byw

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo cynlluniau llywodraeth yr Iseldiroedd i ddefnyddio €1.47 biliwn i brynu ffermydd da byw er mwyn lleihau llygredd nitrogen.

Dywed y Comisiwn bod y cynllun yn un y gellir ei ganiatáu dan reolau cymorth gwladwriaethol.  Mae’r glymblaid sy’n rheoli yn yr Iseldiroedd am leihau allyriadau, sef ocsid nitrogen ac amonia yn bennaf, o 50 y cant ar draws y wlad erbyn 2030.

Mae ffermwyr yr Iseldiroedd wedi bod yn cynnal protestiadau am y targedau lleihau allyriadau ers Hydref 2019.  O ganlyniad, mi enillodd plaid wleidyddol sydd o blaid amaethyddiaeth etholiadau rhanbarthol yr Iseldiroedd ym mis Mawrth.