Lansio Prosiect ‘profi a thrin’ Gwaredu Scab yng Nghymru

Cafodd prosiect, a elwir yn Gwaredu Scab, sy’n anelu at leihau nifer yr achosion o’r clafr ar draws Cymru,drwy gynnig grant ariannol i ganfod a thrin defaid sydd wedi’u heintio, ei lansio y mis hwn.  Dyma’r rhaglen ‘profi a thrin’ genedlaethol gyntaf o’i bath. 

Mae Gwaredu Scab yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda £1.5 miliwn wedi’i glustnodi bob blwyddyn am o leiaf dwy flynedd.  Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan Coleg Sir Gâr, yn cynnig gwasanaeth cyfan am ddim, o’r diagnosis i’r broses o drin y ddiadell gyfan.

Mae’r clafr yn glefyd hynod heintus a achosir gan y gwiddonyn parasitig Psoroptes ovis ac mae’n trosglwyddo’n hawdd o un ddiadell i’r llall.  Mae arwyddion clinigol o’r haint yn cynnwys ychydig, neu lawer o grafu a chosi, colli gwlân,  briwiau ar y croen, colli pwysau ac, mewn achosion difrifol, marwolaeth.  Fodd bynnag, nid yw’r arwyddion clinigol ynddyn nhw’u hunain yn ddigon i wneud diagnosis o’r clefyd, a gellir ond cadarnhau bod y clefyd yn bresennol drwy grafiadau croen neu brofion gwaed gwrthgyrff.

Dylai ffermwyr sy’n amau bod ganddynt ddefaid sydd wedi’u heintio â’r clafr ffonio llinell gymorth Gwaredu Scab ar 01554 748576 neu e-bostio’r tîm ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.. Pan fydd y clafr yn cael ei gadarnhau drwy grafiad croen (neu brofion gwaed ELISA ar gyfer diedyll cyfagos) bydd y broses gyfan, o’r diagnosis milfeddygol i’r driniaeth, yn cael ei hariannu’n llawn gan y prosiect.  

Ceir manylion llawn am y prosiect, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin ar https://ahww.cymru/home/ .Gall aelodau UAC hefyd gysylltu â’u swyddfa sirol am wybodaeth bellach.