Ymgynghoriad ar ryddhau adar hela yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymgynghori ar hyn o bryd ar gyflwyno system drwyddedu ar gyfer rhyddhau ffesantod a phetris coesgoch yng Nghymru.

Mae niferoedd sylweddol o adar hela anfrodorol, yn arbennig ffesantod a phetris coesgoch yn cael eu rhyddhau yng Nghymru bob blwyddyn.  O fewn ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) mae angen caniatâd i ryddhau fel arfer.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd does fawr ddim rheoleiddio y tu allan i safleoedd gwarchodedig.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig bod rhyddhau adar hela 500m neu fwy o ardal SoDdGA sensitif, neu safle a ddiogelir dan gyfraith Ewrop, gan ddilyn arfer da cymeradwy, yn cael ei ganiatáu dan delerau trwydded gyffredinol.  Mae trwydded gyffredinol yn drwydded a gyhoeddir ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae ar gael i unrhyw un ei defnyddio, cyn belled â’u bod yn cydymffurfio â’i thelerau ac amodau.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig bod trwydded benodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru’n ofynnol i ryddhau o fewn safleoedd gwarchodedig sensitif, neu o fewn 500m o ffiniau safleoedd o’r fath.  Rhaid gwneud cais am drwyddedau penodol, byddant yn cael ystyriaeth unigol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a’u dosbarthu i unigolion penodol.  Mi fydd angen trwydded benodol hefyd i ryddhau mewn ardaloedd eraill nad ydynt yn bodloni telerau ac amodau’r drwydded gyffredinol.


Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 20fed Mehefin.  I weld yr ymgynghoriad llawn neu i ymateb gyda’ch barn, ewch i: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/evidence-policy-and-permitting-tystiolaeth-polisi-a-thrwyddedu/nrw-s-proposed-approach-to-regulating-the-release/