Mae gan Cyswllt Ffermio amryw o ffenestri ymgeisio ar agor, yn ogystal ag eraill fydd yn agor yn fuan:-
Gwasanaeth Cynghori – Ar agor nawr ar gyfer ceisiadau. Mae cyllid o hyd at 90% ar gael, gydag uchafswm o £3000 fesul busnes cymwys, i gael cyngor busnes a thechnegol.
Mentora - Ar agor nawr ar gyfer ceisiadau. Gall ymgeiswyr cymwys dderbyn 15 awr o sesiynau mentora wedi’u hariannu’n llawn gyda mentor o’u dewis. Gellir cyfathrebu drwy ymweliadau wyneb yn wyneb, sgyrsiau ffôn, galwadau fideo, neu negeseuon e-bost.
Academi Amaeth – Ar agor nawr ar gyfer ceisiadau, yn cau 26ain Mai.
- Rhaglen Busnes ac Arloesedd – yn anelu at gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ffermio ac arloeswyr yng Nghymru.
- Rhaglen yr Ifanc – yn anelu at gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu ffermio.
Rhaglen Geneteg Defaid Cymru – Yn recriwtio diedyll newydd 8fed Mai – 9fed Mehefin
Grwpiau Trafod (Tir/Busnes/Da Byw) - Ffenestr recriwtio’n agor ddiwedd Mai (Dyddiad i’w gadarnhau)
Cyllid Arbrofi – Ffenestr recriwtio 22ain Mai i 5ed Mehefin.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd ewch i: