Rhoi gwybod am foch daear marw

Fel rhan o Raglen Dileu TB Gwartheg Cymru, dyfarnwyd contract i gasglu cyrff moch daear a ganfuwyd yn farw at ddibenion cynnal post-mortem.

 

Defnyddir moch daear a gesglir ar gyfer post-mortem i asesu nifer yr achosion o TB Gwartheg mewn moch daear yng Nghymru.

 

Os dewch chi o hyd i fochyn daear marw, dylech roi gwybod amdano, gan roi lleoliad y mochyn daear:

  • ffôn: 0808 1695110
  • e-bost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
  • gwefan: www.bfd.wales