Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n annog ei haelodau i ymateb i gynigion diweddaraf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddweud mai dyma’r newid pwysicaf i’r polisi amaethyddol yng Nghymru ers sefydlu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgynghoriad terfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y mecanwaith a ddefnyddir i ddarparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi talu teyrnged i Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, a roddodd y gorau i fod yn arweinydd Llafur Cymru Ddydd Mercher 13 Rhagfyr 2023, ac a fydd yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog ym mis Mawrth 2024.
Dywedodd Mr Drakeford y bydd yr enwebiadau ar gyfer ei olynydd fel arweinydd yn agor yn fuan, a bydd y broses wedi’i chwblhau erbyn diwedd tymor Gwanwyn y Senedd, gan ganiatáu i enillydd yr ornest fynd gerbron y Senedd cyn gwyliau’r Pasg. Mi fydd yn parhau i fod yn Brif Weinidog tan yr adeg honno, ond mi fydd yn rhoi’r gorau i fod yn Arweinydd Llafur Cymru ar unwaith.
Mae grŵp o sefydliadau ffermio ac amgylcheddol yng Nghymru wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Weinidog Cymru i bwysleisio pwysigrwydd cynnal y gyllideb Materion Gwledig ar gyfer 2024/25.
Mae’r llythyr at y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS wedi’i gyd-arwyddo gan CLA Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), NFU Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, RSPB Cymru, CFfI Cymru, Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru a Fforwm Organig Cymru. Mae’r grŵp yn galw am sicrwydd cyllidebol ar gyfer y portffolio Materion Gwledig cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach yn y mis.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cynnal cymorth amaethyddol i’r economi wledig a chynnyrch amaethyddol, ar ôl cyhoeddi adroddiad yn tynnu sylw ar rôl cymorth uniongyrchol o fewn cadwyni cyflenwi da byw yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, sef ‘Rôl cymorth i ffermwyr o fewn cadwyni cyflenwi da byw yng Nghymru’ yn defnyddio pum mlynedd o ffigurau Arolwg Busnesau Fferm Cymru i ymchwilio i’r math o gynnydd o ran elw, neu ostyngiad o ran costau mewnbwn dethol y byddai ei angen i gynnal elw da byw cyfartalog ffermydd petai’r cymorth uniongyrchol yn cael ei gwtogi 50% a 100%.
Bu Undeb Amaethwyr Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd ariannu clir a phenodol ar gyfer y sector mewn cyfarfodydd â gwleidyddion yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, gan dynnu sylw hefyd at yr angen brys am eglurder os ydyn ni am gadw ffermydd teuluol Cymru.
Aelod-wladwriaethau’r UE yn gofyn am hyblygrwydd o ran tir braenar
Mae un ar ddeg o aelod-wladwriaethau’r UE yn galw am fwy o ‘hyblygrwydd’ o ran y gofyniad, a gafodd ei randdirymu’n ddiweddar, i adael tir yn fraenar dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).
Oherwydd y rhyfel yn Wcráin a’r angen brys i ddiogelu cyflenwad bwyd Ewrop, cytunodd Comisiwn yr UE i ganiatáu dau randdirymiad blynyddol i aelod-wladwriaethau i drin tir braenar a osodwyd o’r neilltu yn 2022 a 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgynghoriad allweddol a therfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y mecanwaith ar gyfer darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.
Bydd Tîm Polisi UAC yn mynd trwy bob rhan o’r ddogfen bolisi yn drwyadl a bydd yn teithio ar hyd a lled Cymru i gyflwyno’r ddogfen ymgynghori i aelodau UAC yn y flwyddyn newydd.
Yn dilyn gwaith gwyliadwriaeth o fewn y parth rheoli dros dro (TCZ), canfuwyd achosion pellach o BTV 3, gyda chyfanswm o 11 o achosion yn cael eu nodi mewn 6 eiddo gwahanol yn Lloegr.
Mae’r parth rheoli dros dro (TCZ) wedi’i ymestyn i gynnwys arfordiroedd Gogledd a Dwyrain Caint. Mae ymestyn y parth yn helpu i sicrhau gwyliadwriaeth effeithiol a lleihau lledaeniad y clefyd.
Mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyhoeddi set ddiwygiedig o ddogfennau trawsgydymffurfio ar gyfer 2024 ar-lein.
Bydd y prif newidiadau i drawsgydymffurfio’n ymwneud ag SMR1 - Diogelu Dŵr, ynghyd â mân newidiadau i weddill y dogfennau. Bydd crynodeb o’r newidiadau ar gael ar-lein unwaith bod y dogfennau diwygiedig wedi’u cyhoeddi.
Mae disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail yn gwneud ymchwil fel rhan o’i Fagloriaeth Cymru.
Nod yr ymchwil yw canfod a oes yna brinder o filfeddygon gwledig ac ydy hynny’n effeithio ar driniaethau anifeiliaid yn y DU.
Mae’r Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn ddigwyddiad blynyddol sy’n annog ffermwyr a rheolwyr tir i gofnodi rhywogaethau adar a’u niferoedd ar eu ffermydd. Mae cyfrif eleni’n digwydd rhwng 2 – 18 Chwefror 2024.
Nod y cyfrif yw codi ymwybyddiaeth o‘r rôl bwysig mae ffermwyr yn ei chwarae o ran cadwraeth adar ffermdir, ac i fesur effaith y gwaith cadwraeth mae nifer o ffermwyr a chriwiau saethu’n ei gyflawni.
Atfgoffir ceidwaid defaid a geifr yng Nghymru i gyflwyno’u stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2024 i osgoi cosbau posib.
Mae’n ofyniad cyfreithiol bod ceidwaid yn cwblhau Cofrestr Flynyddol dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi ymateb llugoer i Gyllideb yr Hydref, a gyhoeddwyd gan y Canghellor Jeremy Hunt.
Serch y gostyngiad diweddar yn y cyfraddau chwyddiant, nid yw hyn wedi arwain eto at ostwng y cyfraddau llog, ac mae Banc Lloegr yn dweud na ddylem ddisgwyl llawer o newid yn y dyfodol agos. Mae hwn yn bryder go iawn i fusnesau o bob math, gan gynnwys busnesau fferm.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r costau a’r beichiau gweinyddol a osodir ar geidwaid da byw o ganlyniad i’r drefn profion TB bresennol yng Nghymru. Mae’r alwad yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig yn amlinellu gofynion profi ychwanegol ar gyfer ardaloedd risg Isel a Chanolig yng Nghymru.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n annog ei haelodau i fod yn wyliadwrus iawn yn sgil cadarnhau un achos o’r feirws Tafod Glas 3 (BTV3) mewn buwch ar eiddo ger Caergaint yng Nghaint, Lloegr ar 11 Tachwedd 2023.
Mae BTV yn glefyd estron hysbysadwy sy’n heintio anifeiliaid cnoi cil megis defaid a gwartheg, ac sy’n cael ei drosglwyddo gan bryfed sy’n pigo, sydd fwyaf gweithgar rhwng Ebrill a Thachwedd.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder yn ei hymateb i’r cyhoeddiad am waharddiad ar allforio anifeiliaid byw yn Araith y Brenin, a oedd yn gosod blaenoriaethau’r llywodraeth i gyflwyno’r Bil Lles Anifeiliaid (Allforio Anifeiliaid Byw) a Bil Masnach (Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel).
Bydd y Bil Lles Anifeiliaid (Allforio Anifeiliaid Byw) yn cyflwyno gwaharddiad deddfwriaethol ar allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw o Brydain, i’w lladd neu’u pesgi.
Defnydd o wrthfiotigau ar gyfer da byw yn y DU yn parhau i ostwng
Mae Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol y DU wedi cyhoeddi ei hadroddiad ar Werthiant a Gwyliadwriaeth o Ymwrthedd Gwrthfiotig ar gyfer Milfeddygon y DU 2022.
Mae swyddfa Gwaredu Scab wedi bod yn derbyn lefelau uchel iawn o ymholiadau yn ddiweddar gan ffermwyr sydd am gymryd rhan yn y prosiect. Mae hyn wedi arwain at amserau aros hirach cyn bod swyddogion yn ymweld â ffermydd mynegai, ac yn gwneud ymweliadau dilynol â ffermydd cyswllt.
O ganlyniad i’r pwysau gwaith hwn mae’r amserau aros yn cynyddu.
Ar 11 Tachwedd, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU un achos o feirws y Tafod Glas (BTV-3) mewn buwch ar eiddo ger Caergaint yng Nghaint, Lloegr.
Cafodd y clefyd ei ganfod gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r Pirbright Institute drwy raglen flynyddol gwyliadwriaeth Tafod Glas Prydain.
Mae UAC yn annog ei haelodau i lenwi holiadur am gŵn yn poeni da byw. Mi fydd hyn yn ein helpu i ddeall pa mor ddifrifol yw’r broblem o boeni da byw mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru’n cael eu hailbrisio mewn ad-drefniad mawr o system treth gyngor y wlad.
Mi ddylai ffermdai yng Nghymru fod wedi derbyn holiadur Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar Ddydd Mawrth 14eg Tachwedd yn ymwneud â’r Dreth Gyngor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd taliadau hawliadau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn dechrau o 1af Rhagfyr 2023.
Mae’r taliadau’n digwydd yn gynt eleni er mwyn gwneud y gorau o wariant yr UE, a bydd ffermwyr gyda chontractau Glastir sydd wedi bodloni’r gofynion cymhwyso, ac wedi darparu’r holl ddogfennau ategol priodol, yn dechrau derbyn taliadau o’r dyddiad hwn.
Mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn cynhyrchu nifer fawr o adnoddau i ffermwyr eu defnyddio, ar y fferm neu yn y swyddfa. Mae enghreifftiau o’r cyhoeddiadau hyn yn cynnwys:
- Cyfeiriadur clefydau cig eidion
- Tyfu a phesgi ŵyn i gael gwell enillion
- Canllaw rheoli mastitis
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar amaethyddiaeth yn y DU dan y teitl ‘Agriculture in the United Kingdom 2022’.
Mae’r adroddiad a’r crynodeb yn cynnwys nifer o ffeithiau a ffigurau diddorol yn ymwneud â phob dim o strwythur y diwydiant i brisiau anwadal mewnbynnau a chynhyrchion, sut mae amaethyddiaeth yn perfformio o ran ‘amaeth-amgylcheddol’, incwm cyfartalog busnesau fferm, prisiau da byw ac ati.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi adrodd am nifer o achosion o ladrata yng Ngogledd Ceredigion, Powys a’r Gororau.
Maent yn atgoffa ffermwyr o bwysigrwydd bod yn wyliadwrus a sicrhau eu bod yn diogelu eu heiddo a’u cerbydau ac ati. Mae’r Tîm Troseddau Gwledig yn cynnig cyngor ar atal troseddau os oes angen.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder mawr yn dilyn cyhoeddiad a wnaed gan Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, ddydd Mawrth 17eg Hydref 2023, a fydd yn gweld toriadau sylweddol i wariant materion gwledig yng Nghymru.
Mae'r pecyn o fesurau ariannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n diogelu ac yn cynyddu gwariant ar iechyd a thrafnidiaeth, yn golygu gostyngiad o tua £600 miliwn yng nghyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru; gyda thua £220 miliwn yn dod o gwtogi ar wariant.
Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ledled Cymru wedi lleisio eu dicter mawr am y cynllun Cynefin Cymru newydd, ar ôl i gyfrifiadau ddatgelu gostyngiadau enfawr yn y taliadau iawndal y byddent yn eu derbyn am ymgymryd â gwaith amgylcheddol, ac ar ôl dod ar draws gwallau a chamgymeriadau mawr yn y mapiau fferm a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r ffaith bod cyflwyno terfyn nitrogen fferm gyfan wedi’i ohirio am y trydydd tro, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i derfyn nitrogen uwch ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Cadarnhaodd cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd y terfyn nitrogen fferm gyfan o 170kg yr hectar ar gyfer tail da byw yn cael ei ohirio tan 1af Ionawr
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol (Y Gweinidog Bioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig), y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Beynon, yn gofyn bod newidiadau yn y ddeddfwriaeth ar ymosod ar dda byw’n cael eu cadarnhau yn araith y Brenin ym mis Tachwedd, yn dilyn y tro pedol gyda’r Bil Anifeiliaid a Gedwir yn yr haf.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi amlinellu sut y gall opsiynau amgen i blannu coed sicrhau gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau, gan hefyd sicrhau ystod eang o fuddion, a hynny yng nghynhadledd Plaid Cymru, a gynhaliwyd ddydd Gwener 6ed a dydd Sadwrn 7fed Hydref 2023, yn Aberystwyth.
Milfeddygon yn mynd ar streic yng Ngogledd Iwerddon
Mae milfeddygon sy’n gweithio i Adran Amaeth, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon yn bwriadu mynd ar streic am 5 diwrnod o 30ain Hydref, i brotestio am gyflogau isel.
Ar 21ain Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cynllun amaeth-amgylcheddol interim i gynnal a chynyddu'r arwynebedd o dir cynefin sydd o dan fesurau rheoli ledled Cymru.
Bydd y cynllun newydd, Cynefin Cymru, yn cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Mae straen newydd o’r feirws Tafod Glas, sef BTV3, yn lledaenu’n gyflym ar hyn o bryd yn yr Iseldiroedd a Gogledd Ewrop. Mae arwyddion clinigol y straen newydd hwn yn dangos ei fod yn seroteip llawer cryfach na straeniau blaenorol; gyda’r gyfradd marwolaethau ymhlith defaid mor uchel â 30-50%, yn dibynnu ar y lleoliad a’r amrywiolyn.
O fis Rhagfyr, bydd gofyn i lawer o ffermwyr yng Nghymru gael eu milfeddyg i arwyddo datganiad milfeddygol, yn ardystio bod anifeiliaid wedi cael ymweliadau gwirio iechyd a bioddiogelwch rheolaidd (blynyddol) gan filfeddyg.
O 13eg Rhagfyr, bydd gofyn cael Rhif Ardystiad Milfeddygol (VAN) ar y dystysgrif ardystiad milfeddygol i fynd gydag anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd i’w hallforio.
Ers 17eg Hydref mae’r defnydd o faglau a thrapiau glud fel ei gilydd yn anghyfreithlon yng Nghymru. Dyma’r gwaharddiad cyntaf o’i fath yn y DU. Mae’r gwaharddiad yn dod i rym dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru).
Mae’r gwaharddiad ar y defnydd o faglau yn ymrwymiad dan y Rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu ar gyfer gwaharddiad rhannol yn unig yn Lloegr.
Hyd yn hyn mae perchnogion buchesi dan gyfyngiadau TB wedi gorfod gwneud cais i APHA am drwydded benodol i symud gwartheg bob tro roedden nhw am werthu gwartheg i Uned Besgi Gymeradwy (AFU), un ai’n uniongyrchol, neu drwy Arwerthiant Arbennig Cymeradwy ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB (“marchnad oren”).
Mae arolwg yn cael ei gynnal gan Fera Science Ltd a DEFRA i bennu’r effeithiau ariannol a gafodd yr achosion o ffliw adar rhwng Hydref 2021 a Medi 2022 ar ddeiliaid adar y DU.
Mae gwneuthurwyr Asulox (cynhwysyn actif Asulam), UPL Ltd, wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi’r gorau i wneud unrhyw waith pellach ar ateb parhaol a fyddai’n caniatáu defnydd o Asulam yn y dyfodol.
Yn gynharach y mis hwn, ymunodd UAC â nifer o ffermwyr, milfeddygon ac academyddion i wrando ar ddarlith gan yr ymgyrchydd gwrth-ddifa pybyr, Syr Brian May, ar ddulliau amgen o reoli TB Gwartheg.
Roedd y ddarlith, a gynhaliwyd gan Ganolfan Rhagoriaeth TB Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amlinellu prosiect TB Gwartheg hirdymor a gynhaliwyd ar fferm a noddir gan Brian May, yn Ne Dyfnaint.
Mae astudiaeth a ryddhawyd gan Beef & Lamb New Zealand (B+LNZ), sef corff hyrwyddo cig y wlad, wedi dangos bod niferoedd y mamogiaid yno wedi gostwng 1% hyd yn hyn yn 2023. Mae hyn yn dilyn gostyngiad o 5.2% yn y niferoedd yn 2022. Mae B+LNZ yn honni mai’r hyn sy’n bennaf gyfrifol am y gostyngiad hwn yw arwynebedd y tir ffermio sy’n cael ei brynu er mwyn plannu coed i wrthbwyso allyriadau carbon.
Mae B+LNZ eisoes wedi cyhoeddi adroddiad yn dadansoddi tir ffermio, a ddangosodd bod 200,000ha o dir ffermio wedi’i werthu i blannu coedwigoedd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae B+LNZ hefyd yn disgwyl y bydd 88,000ha pellach yn cael eu plannu eleni. Mae llawer o’r tir a werthwyd yn berchen i gwmnïau tramor erbyn hyn.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad am yr oedi mewn perthynas â’r penderfyniad i gyflwyno trwyddedau i ryddhau adar hela yng Nghymru.
Roedd yr ymgynghoriad gan Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnig ychwanegu ffesantod cyffredin a phetris coesgoch at Atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a fyddai wedi arwain at gyflwyno trwyddedau ar gyfer tymor saethu 2024/2025.
Yn ôl yr adroddiadau, mae cwmni cludo Lloyd Fraser, sydd wedi’i leoli yn Rugby, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac wedi colli ei drwydded i weithredu.
Wedi’i ddisgrifio fel un o gludwyr llaeth swmp mwyaf y DU, gyda safleoedd yn Ninbych, Llanymynech a Phont-y-pŵl, mi fydd methiant y busnes yn effeithio ar ardaloedd ar draws gogledd a dwyrain Cymru, a thros y ffin yn Lloegr.
Daeth adroddiadau i law am fethiant y cludwr i gasglu llaeth ar 22ain Medi, gyda rhai sy’n cyflenwi llaeth i Arla, Muller, Meadow ac eraill yn cael eu heffeithio.
Gohirio gwiriadau ffin ar fewnforion am y pumed tro
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod gwiriadau ffin ar fwydydd a chynnyrch ffres ar ôl Brexit wedi’u gohirio am y pumed tro.
Tra bod gwiriadau trylwyr yn eu lle ers 1af Ionawr 2021 ar fwydydd a allforir o’r DU i’r UE, y bwriad oedd cyflwyno gwiriadau tebyg ar gynnyrch bwyd a fewnforir o’r UE o 1af Ebrill 2021.
Ar 21ain Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cynllun amaeth-amgylcheddol interim i gynnal a chynyddu'r arwynebedd o dir cynefin sydd o dan fesurau rheoli ledled Cymru.
Bydd y cynllun newydd, Cynefin Cymru, yn cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Dyma amcanion cynllun Cynefin Cymru:
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) unwaith eto am gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ddatblygiad y diwydiant llaeth, ac sydd wedi dod yn rhan annatod o’r diwydiant llaeth yng Nghymru.
I gydnabod unigolyn o’r fath, mae’r Undeb am gael enwebiadau ar gyfer gwobr UAC am Gyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant Llaeth yng Nghymru. Cyhoeddir yr enillydd, a gwneir y cyflwyniad yn Sioe Laeth Cymru eleni ar 24ain Hydref 2023.
I gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2050, mi fydd angen cyfuniad o leihau allyriadau a thynnu carbon.
I nifer o ffermwyr mae hyn yn golygu canolbwyntio ar leihau allyriadau eu busnesau eu hunain, cynnal archwiliadau carbon, gweithio gyda’u cadwyn gyflenwi, gwella effeithlonrwydd y cynhyrchu, ac atafaelu mwy o garbon ar y fferm.