Ers 17eg Hydref mae’r defnydd o faglau a thrapiau glud fel ei gilydd yn anghyfreithlon yng Nghymru. Dyma’r gwaharddiad cyntaf o’i fath yn y DU. Mae’r gwaharddiad yn dod i rym dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru).
Mae’r gwaharddiad ar y defnydd o faglau yn ymrwymiad dan y Rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu ar gyfer gwaharddiad rhannol yn unig yn Lloegr.
Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gan wneud y defnydd o drapiau glud yn drosedd. Mae’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn cael ei gorfodi gan luoedd heddlu ledled Cymru, ac ers 17eg Hydref, gall unrhyw un a geir yn euog o ddefnyddio trap glud wynebu cyfnod yn y carchar a/neu ddirwy heb gyfyngiad.