Newid y drwydded ar gyfer symudiadau i Uned Besgi Gymeradwy (AFU)

Hyd yn hyn mae perchnogion buchesi dan gyfyngiadau TB wedi gorfod gwneud cais i APHA am drwydded benodol i symud gwartheg bob tro roedden nhw am werthu gwartheg i Uned Besgi Gymeradwy (AFU), un ai’n uniongyrchol, neu drwy Arwerthiant Arbennig Cymeradwy ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB (“marchnad oren”).

Roedd yr amser oedd ei angen i gwblhau’r broses honno weithiau’n gallu gwneud hi’n anodd i geidwaid fodloni gofynion prynwyr gwartheg.

Felly, o 2 Hydref 2023, gall ceidwaid buchesi dan gyfyngiadau TB wneud cais am drwydded gyffredinol i symud gwartheg yn uniongyrchol neu drwy Arwerthiant Arbennig Cymeradwy ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB (“marchnad oren”) yng Nghymru neu Loegr i:

  • Uned Besgi Gymeradwy (AFU) / Uned Besgi Gymeradwy Uwch gyda Thir Pori (yn Lloegr) (AFUE)
  • Lladd-dy 

Bydd y drwydded gyffredinol yn ddilys ar gyfer y cyfnod rhwng profion cyfnod byr. Bydd angen gwneud cais am drwydded newydd ar ôl pob prawf cyfnod byr.

Bydd y drwydded, gan gynnwys yr amodau manwl, yn cael ei chyhoeddi ar GOV.UK a bydd yr wybodaeth ar https://gov.wales/bovine-tb a’r TB hub yn cael ei diweddaru. Hefyd bydd APHA yn ysgrifennu’n uniongyrchol at weithredwyr arwerthiannau arbennig TB yng Nghymru a Lloegr i roi gwybod iddyn nhw am y newidiadau.