Ydych chi wedi trefnu ymweliad fferm gan Filfeddyg eto?

O fis Rhagfyr, bydd gofyn i lawer o ffermwyr yng Nghymru gael eu milfeddyg i arwyddo datganiad milfeddygol, yn ardystio bod anifeiliaid wedi cael ymweliadau gwirio iechyd a bioddiogelwch rheolaidd (blynyddol) gan filfeddyg.

O 13eg Rhagfyr, bydd gofyn cael Rhif Ardystiad Milfeddygol (VAN) ar y dystysgrif ardystiad milfeddygol i fynd gydag anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd i’w hallforio.

Bydd y rheoliad newydd hwn yn disodli’r drefn ‘hunan-ddatgan’ bresennol, a oedd yn ateb dros dro nad yw’n cydymffurfio â’r drefn ardystio milfeddygol swyddogol.

Cynghorir ffermwyr a milfeddygon yn gryf i gadw copi wedi’i arwyddo o’r datganiad gyda’u cofnodion, i allu cyfeirio ato yn y dyfodol.

Mae cael Datganiad Milfeddygol yn ofyniad ar gyfer y Dystysgrif Iechyd Allforio sydd ei hangen i allforio cynnyrch amaethyddol, megis cig a sgil-gynhyrchion anifeiliaid, i’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn ymestyn i ambell i bumed chwarter ac, fel y cyfryw, mae’n effeithio ar nifer o ffermydd yng Nghymru.

Fodd bynnag, os ydych chi’n aelod o gynllun sicrwydd fferm megis FAWL, WLBP neu'r Tractor Coch, mae eich aelodaeth o’r cynllun yn ddigonol, a does dim angen ichi gymryd unrhyw gamau pellach.

Deellir bod angen rhif VAN unigol ar gyfer pob CPH, ac mai rhif VAN y daliad diwethaf y cadwyd yr anifail arno cyn ei ladd fydd yn ofynnol, i ddilyn yr anifail trwy’r farchnad a/neu’n uniongyrchol i’r lladd-dy.

Y cyngor i unrhyw ffermwr nad yw’n aelod o gynllun sicrwydd fferm ar hyn o bryd yw mynd ati ar unwaith i drefnu ymweliad gan y milfeddyg a chael datganiad wedi’i arwyddo, gan gynnwys rhif VAN ar gyfer y cofnodion.