Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad am yr oedi mewn perthynas â’r penderfyniad i gyflwyno trwyddedau i ryddhau adar hela yng Nghymru.
Roedd yr ymgynghoriad gan Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnig ychwanegu ffesantod cyffredin a phetris coesgoch at Atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a fyddai wedi arwain at gyflwyno trwyddedau ar gyfer tymor saethu 2024/2025.
Ar hyn o bryd, does dim penderfyniad wedi’i wneud ynghylch rhoi system drwyddedu ar gyfer rhyddhau’r adar hela hyn ar waith. Gyda 42,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, cyhoeddwyd y bydd yna oedi am 12 mis er mwyn ystyried ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.