Mae astudiaeth a ryddhawyd gan Beef & Lamb New Zealand (B+LNZ), sef corff hyrwyddo cig y wlad, wedi dangos bod niferoedd y mamogiaid yno wedi gostwng 1% hyd yn hyn yn 2023. Mae hyn yn dilyn gostyngiad o 5.2% yn y niferoedd yn 2022. Mae B+LNZ yn honni mai’r hyn sy’n bennaf gyfrifol am y gostyngiad hwn yw arwynebedd y tir ffermio sy’n cael ei brynu er mwyn plannu coed i wrthbwyso allyriadau carbon.
Mae B+LNZ eisoes wedi cyhoeddi adroddiad yn dadansoddi tir ffermio, a ddangosodd bod 200,000ha o dir ffermio wedi’i werthu i blannu coedwigoedd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae B+LNZ hefyd yn disgwyl y bydd 88,000ha pellach yn cael eu plannu eleni. Mae llawer o’r tir a werthwyd yn berchen i gwmnïau tramor erbyn hyn.
Mae Seland Newydd yn un o’r ychydig wledydd yn y byd sy’n caniatáu i allyrwyr tanwydd ffosil wrthbwyso 100% o’u hallyriadau. Cyflwynodd Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) Seland Newydd fecanwaith prisio credydau carbon. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sydyn ym mhryniant tir ffermio da yn Seland Newydd gan fuddsoddwyr carbon, sydd am werthu gwrthbwysiadau carbon yn y dyfodol drwy greu coedwigoedd. Mae B+LNZ yn galw am newid polisïau’r cynllun i fynd i’r afael â’r broblem o newid defnydd tir ar raddfa eang, gyda chyfyngiadau penodol ar faint o goedwigaeth y gellir ei ddefnyddio i wrthbwyso allyriadau tanwydd ffosil.
Mae B+LNZ yn ofni y bydd graddfa a chyflymder y newid defnydd tir sydd i’w weld yn Seland Newydd ar hyn o bryd yn cael effaith negyddol ar gymunedau gwledig, y gallu i gynhyrchu bwyd, a’r incwm o allforion. Mae hwn yn bryder sy’n cael ei adleisio gan UAC yma yng Nghymru.
Mae’r ffaith bod busnesau o’r tu allan i Gymru’n dod i mewn ac yn prynu ffermydd a thir yn broblem fawr. Y pryder yw bod credydau carbon yn cael eu prynu a’u defnyddio i wrthbwyso allyriadau busnesau y tu allan i Gymru, y gellir wedyn eu defnyddio i gwrdd â thargedau sero net Cymru. Mae UAC am weithio gyda Llywodraeth Cymru, nid i wrthwynebu ei thargedau plannu coed, ond i sicrhau mai ffermwyr, cymunedau a Chymru fel gwlad sy’n mwynhau’r buddiannau sy’n deillio o hynny, yn hytrach na chorfforaethau mawr, sydd heb unrhyw fuddiannau hirdymor yng Nghymru.
Yn 2021 gwelwyd cynnydd chwephlyg yn nifer y ceisiadau i blannu coetir yng Nghymru o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, gyda thua 75% o’r ceisiadau hynny gan unigolion neu gyrff y tu allan i Gymru a oedd wedi prynu tir ffermio yng Nghymru. Mae’r ffigurau a ddaeth i law UAC yn dangos bod 75% o’r ceisiadau coedwigo yng Nghymru i blannu dros 50ha wedi dod gan elusennau a chwmnïau preifat yn Lloegr, a gwelwyd cynnydd o 450% yn y ceisiadau a dderbyniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru am Asesiadau Effaith Amgylcheddol rhwng 2015 a 2021. Dim ond 20% o’r ceisiadau a ddaeth gan unigolion neu fusnesau preifat yng Nghymru.