UAC yn arswydo bod profiadau un fferm yn unig yn cael eu datgan fel y mecanwaith ar gyfer dileu TB gwartheg

Yn gynharach y mis hwn, ymunodd UAC â nifer o ffermwyr, milfeddygon ac academyddion i wrando ar ddarlith gan yr ymgyrchydd gwrth-ddifa pybyr, Syr Brian May, ar ddulliau amgen o reoli TB Gwartheg.

Roedd y ddarlith, a gynhaliwyd gan Ganolfan Rhagoriaeth TB Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amlinellu prosiect TB Gwartheg hirdymor a gynhaliwyd ar fferm a noddir gan Brian May, yn Ne Dyfnaint.

Mae’r fferm, a elwir yn Gatcombe Farm, wedi dod yn adnabyddus fel y gyntaf i fod wrth galon gweithdrefnau profi newydd a gwahanol i reoli TB gwartheg. Mae Gatcombe wedi defnyddio profion PCR ac Actiphage yn ogystal â’r profion statudol i reoli’r clefyd, mewn ymdrech i ganfod a dileu’r clefyd o’r fferm. Fel rhan o’r dulliau rheoli ychwanegol hyn, cafodd rôl gwasgaru slyri yn lledaeniad TB ei gwerthuso, a daeth y prosiect i’r casgliad mai rheoli slyri a bioddiogelwch, yn y bôn, oedd yr unig ffactorau oedd o ddiddordeb o ran trosglwyddo a rheoli TB Gwartheg. Archwiliwyd rôl setiau moch daear oedd wedi’u heintio â TB, ond daethpwyd i’r casgliad nad oedd difa moch daear, na brechu moch daear yn berthnasol yn y frwydr yn erbyn TB Gwartheg.

Yn dilyn y ddarlith, nid yw UAC wedi’i hargyhoeddi o hyd gan optimistiaeth Syr Brian May bod y prosiect hwn yn darparu’r ateb i ddileu TB yng Nghymru. Yn ôl Blog Bocs Sebon Brian, mae’r prosiect hwn yn cynrychioli ‘the potential to end this misery - relatively quickly’. Fodd bynnag, rydym ni o’r farn bod TB Gwartheg yn glefyd cymhleth ac na fydd ceisio mabwysiadu ‘un ateb sy’n addas i bawb’ yn gweithio o gwbl. Mae UAC felly yn arswydo bod profiadau un fferm yn unig yn cael eu datgan fel y mecanwaith ar gyfer dileu TB Gwartheg ar draws Cymru gyfan. Hefyd, mae’r ffaith bod y fferm hon unwaith eto dan gyfyngiadau TB Gwartheg yn arwydd pellach o’r ymdrech hirdymor sydd ei hangen i nodi a lliniaru holl ffynonellau’r haint.

Nod y digwyddiad oedd hyrwyddo deialog barchus am TB Gwartheg, gyda’r trafodaethau’n canolbwyntio ar ganfod dulliau a thechnegau newydd o ganfod a rheoli’r clefyd hwn ar y fferm. Yn anffodus, er nad yn annisgwyl, cafodd y cyfle i drafod ffyrdd newydd o ganfod llwybrau trosglwyddo TB Gwartheg ei gysgodi i raddau helaeth gan rethreg gwrth-ddifa, a methiant i ddeall y rôl gymhleth a chwaraeir gan foch daear yn trosglwyddo’r clefyd hwn ar rai ffermydd.

Mae gwaith partneriaeth go iawn yn gofyn bod pob ffynhonnell o’r haint yn cael ei harchwilio’n ddiduedd. Rhaid i bolisïau fod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn, ac mae hyn yn hanfodol ar gyfer llunio strategaethau blaengar a llwyddiannus i reoli’r clefyd. Yn anffodus, aeth Prosiect Gatscombe yn eilbeth i ymdrechion cwbl ddiffuant Syr Brian May i ddarbwyllo nad oes gan foch daear unrhyw rôl i’w chwarae yn trosglwyddo TB, gan ddod â’r ddeialog yr oedd mor awyddus i fod yn rhan ohoni i ben.