Toriadau brys i’r gyllideb materion gwledig yn peryglu targedau amgylcheddol, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder mawr yn dilyn cyhoeddiad a wnaed gan Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, ddydd Mawrth 17eg Hydref 2023, a fydd yn gweld toriadau sylweddol i wariant materion gwledig yng Nghymru.

Mae'r pecyn o fesurau ariannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n diogelu ac yn cynyddu gwariant ar iechyd a thrafnidiaeth, yn golygu gostyngiad o tua £600 miliwn yng nghyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru; gyda thua £220 miliwn yn dod o gwtogi ar wariant.

Mae’r ffaith y gallai’r dyraniad cyllideb ar gyfer materion gwledig gael ei leihau o dros £37 miliwn yn ergyd sylweddol i’r diwydiant. Mae hyn yn peri cryn bryder o ystyried y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan adran materion gwledig Llywodraeth Cymru ar adeg o drawsnewid mawr a phwysau ar ffermwyr a’r cymunedau gwledig maent yn eu cefnogi.

Nid oes unrhyw weinyddiaeth yn ddiogel rhag toriadau gwariant ac mae UAC yn cydnabod yn llwyr bod yna bwysau sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae toriadau o natur mor sylweddol yn y gyllideb yn dwyn i amheuaeth y targedau amgylcheddol uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Heb gymorth priodol ac uchelgeisiol i gynhyrchu bwyd a ffermio mewn ffordd sy’n amgylcheddol gynaliadwy mi fydd hi’n anodd i’r diwydiant gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn toriadau o fwy na £200 miliwn yn y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru ers 2019 ac mae’n cadarnhau pryderon UAC am y diffyg eglurder ynghylch y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y cynllun Cynefin Cymru newydd.

Yn eironig, mae’r gyllideb Newid Hinsawdd, sy’n cynnwys trafnidiaeth, wedi cael hwb o dros £80 miliwn o gyllid, ond mae cyfraddau talu is, ynghyd â cholli taliadau rheoli’r fferm gyfan a chymorth ar gyfer gwaith cyfalaf, yn golygu bod y rheiny sydd â chontractau Glastir ar hyn o bryd, a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr 2023, yn cael taliadau llawer is y flwyddyn nesaf os byddant yn penderfynu ymuno â’r cynllun amgylcheddol dros dro hwn.

Byddai’n destun pryder mawr pe bai cwtogi ar y gyllideb materion gwledig gyffredinol yn golygu bod llai o arian ar gael ar gyfer cyllideb cynllun Cynefin Cymru. Mae UAC wedi galw’n gyson ar i’r cynllun newydd hwn, sy’n agored i fwy na 17,000 o ffermwyr Cymru, gael o leiaf yr un faint o gyllid â’r cynlluniau mae’n eu disodli. Mae UAC yn parhau i fod yn hynod bryderus, os na fydd y cynllun newydd yn ariannol ddeniadol i ffermwyr, y bydd unrhyw danwariant o ganlyniad i hynny’n golygu colli incwm pellach i’r sector.

Cyfeiriodd y Gweinidog Cyllid at ddiogelu swyddi fel un o’r blaenoriaethau sy’n sail i’r newidiadau i gynlluniau gwariant, ac felly hoffai UAC atgoffa Llywodraeth Cymru bod yr arian sydd ar gael i ffermydd teuluol yng Nghymru yn cefnogi amrywiaeth aruthrol o fusnesau eilaidd a thrydyddol. Mae cannoedd o fusnesau’n dibynnu’n llwyr ar amaethyddiaeth yng Nghymru a bydd unrhyw ostyngiadau yn incwm ffermydd yn cael effaith uniongyrchol ar y busnesau hyn a’u gweithwyr.