UAC yn Annog Ffermwyr i Gadw Golwg am Straen Newydd Cryf o’r Tafod Glas

Mae straen newydd o’r feirws Tafod Glas, sef BTV3, yn lledaenu’n gyflym ar hyn o bryd yn yr Iseldiroedd a Gogledd Ewrop. Mae arwyddion clinigol y straen newydd hwn yn dangos ei fod yn seroteip llawer cryfach na straeniau blaenorol; gyda’r gyfradd marwolaethau ymhlith defaid mor uchel â 30-50%, yn dibynnu ar y lleoliad a’r amrywiolyn.

Er na chafwyd adroddiadau hyd yn hyn am unrhyw achosion o BTV3 yn y DU, mae lledaeniad cyflym y clefyd hwn yn destun pryder yn sgil agosrwydd achosion diweddar at y DU. Mae rhaglenni sy’n cadw golwg ar y clefyd yn y DU yn parhau i fonitro’r gwynt ac yn modelu ar gyfer y senario posib o heidiau o wybed heintus yn cael eu chwythu draw i dir mawr Prydain.

Gall symptomau BTV3 amrywio ar draws anifeiliaid cnoi cil, gyda’r arwyddion clinigol mewn defaid yn tueddu i fod yn fwy amlwg yn gyffredinol nag mewn gwartheg. Mewn defaid, mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys briwiau yn y geg, llif trwchus a glafoerio o'r trwyn a'r geg, oedema (y geg, pen a’r gwddf wedi chwyddo) a marwolaeth sydyn.

Gyda gwartheg, mae adroddiadau’n awgrymu nad ydynt yn cael eu heintio mor ddifrifol. Mae’r symptomau’n cynnwys briwiau yn y geg, llif o’r trwyn, croen coch o amgylch y ffroenau, blinder, a chynhyrchu llai o laeth.

Gall lloi gael eu heintio â’r feirws Tafod Glas yn y groth os ydy’r fam wedi’u heintio tra mae hi’n gyflo. Mae arwyddion o’r haint yn cynnwys lloi’n cael eu geni’n fach, yn wan, wedi’u hanffurfio neu’n ddall, yn marw o fewn ychydig ddyddiau o’u geni, neu’r fuwch yn erthylu.

Mae’r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy ac mae’n bwysig dod i adnabod arwyddion clinigol BTV er mwyn gallu rhoi gwybod yn gyflym am achosion posib.

Ar hyn o bryd does dim brechiad yn erbyn BTV3. Mae’r strategaeth bresennol yn canolbwyntio ar roi gwybod yn gyflym a chadw golwg craff am y clefyd. Ar gyfer straeniau eraill o’r Tafod Glas (1, 2, 4 ac 8) brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o warchod buches neu ddiadell. Pe bai’r clefyd BTV3 yn cael ei ganfod yn Lloegr, dylai aelodau UAC ystyried brechu unrhyw anifeiliaid sydd ganddynt fyddai’n fwy tueddol o’i gael.

Dylai aelodau hefyd drafod y risgiau o fewnforio stoc o wledydd sydd wedi’u heffeithio gan BTV gyda’u milfeddyg. Yn ogystal, dylai ffermwyr gymryd gofal arbennig wrth fewnforio cynnyrch cenhedlol, a dylent wneud yn siŵr eu bod yn gwybod o ble mae’r anifeiliaid neu’r rhoddwyr yn tarfu, a’u bod yn bodloni’r holl ofynion o ran tystysgrifau iechyd allforio. Dylid ystyried gofyn am brawf cyn allforio.

Ar hyn o bryd mae UAC yn cadw golwg ar y clefyd hwn a bydd yn diweddaru aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.