Stocrestr Flynyddol Defaid

Atfgoffir ceidwaid defaid a geifr yng Nghymru i gyflwyno’u stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2024 i osgoi cosbau posib.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod ceidwaid yn cwblhau Cofrestr Flynyddol dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

Dylai nifer y defaid a gofnodir gynnwys mamogiaid, hyrddod, ŵyn gwryw, defaid stôr ac ŵyn wedi’u pesgi, mamogiaid/hyrddod i’w difa a defaid eraill.  Rhaid i ffermwyr hefyd gofnodi nifer y defaid a geifr ar y daliad ar y dyddiad dynodedig yng ‘Nghofnod Diadell’ y fferm.

Rhaid i hwnnw restru rhif pob daliad lle rydych yn berchen defaid a/neu geifr ar y dyddiad dynodedig.  Mae hyn yn cynnwys tir comin a thir dros  dro.  Bydd methu â llenwi’r stocrestr yn cynyddu’r risg o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.  Gallwch gwblhau’r stocrestr ar-lein ar  www.eidcymru.org

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â llinell gymorth gwasanaeth EIDCymru 01970 636959