Asulam ddim ar gael i reoli rhedyn yn 2024

Mae gwneuthurwyr Asulox (cynhwysyn actif Asulam), UPL Ltd, wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi’r gorau i wneud unrhyw waith pellach ar ateb parhaol a fyddai’n caniatáu defnydd o Asulam yn y dyfodol.

Mae’r Grŵp Rheoli Rhedyn wedi dweud, heb y cymorth a’r dystiolaeth y byddai UPL wedi’i ddarparu, ni all y cais am awdurdodiad brys i ganiatáu defnydd o asulam yn 2024 lwyddo, felly ni fydd cais yn cael ei gyflwyno. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw asulam (Asulox) ar gael i reoli rhedyn yn 2024 a thu hwnt.

Ar gyfer 2023, argymhelliad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer y pedair gwlad gartref oedd gwrthod cymeradwyo’r defnydd o asulam, am nad oedd y chwynladdwr yn bodloni’r ‘gofynion cyfreithiol ar gyfer awdurdodiad brys’. Yn dilyn hyn, ym Mehefin eleni, dewisodd Llywodraeth Cymru ddilyn cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a pharhau gyda’r gwaharddiad presennol ar gyfer 2023.