Ar 21ain Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cynllun amaeth-amgylcheddol interim i gynnal a chynyddu'r arwynebedd o dir cynefin sydd o dan fesurau rheoli ledled Cymru.
Bydd y cynllun newydd, Cynefin Cymru, yn cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Dyma amcanion cynllun Cynefin Cymru:
- Diogelu tir cynefin sydd wedi bod o dan fesurau rheoli yn 2023, tan y daw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) i rym yn llawn yn 2025.
- Dod â thir cynefin ychwanegol, nad oes taliadau rheoli’n cael eu talu arno ar hyn o bryd, o dan fesurau rheoli cynaliadwy cyn i’r SFS ddechrau.
- Cadw’r cymorth amgylcheddol ar gyfer tir comin.
Bydd y cynllun ar agor i bob ffermwr cymwys a Chymdeithasau Pori cymwys.
Bydd tri dosbarthiad tir cymwys:
- Tir sydd ar hyn o bryd o dan opsiwn cynefin o fewn contract Glastir Uwch (gan gynnwys Glastir - Tir Comin).
- Tir cynefin (heblaw safleoedd dynodedig), nad yw o dan fesurau rheoli ar hyn o bryd yn 2023, fel y nodwyd gan fapiau a gyhoeddwyd ar MapDataCymru.
- Tir a reolir fel cynefin. (Mae gan y tir hwn botensial i ddod yn dir cynefin yn dilyn mesurau rheoli).
Bydd taliadau rheoli ar gyfer safleoedd dynodedig o fewn contractau Glastir presennol yn cael eu cynnal. Fodd bynnag, ni fydd safleoedd dynodedig, nad ydynt ar hyn o bryd o dan gontract Glastir yn gymwys ar gyfer taliadau o dan gynllun Cynefin Cymru.
Y broses ymgeisio:
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer cynllun Cynefin Cymru yn agor yn ddiweddarach eleni gyda chontractau 12 mis yn cael eu cynnig, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2024.
Bydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno drwy eich cyfrif RPW ar-lein a byddant yn cael eu harwain gan ffermwyr, h.y. ni fydd rheolwyr contractau yn ymweld â ffermydd.
Bydd ardaloedd cynefin yn cael eu llenwi ymlaen llaw ar y ffurflen gais ar-lein.
Bydd y contract yn gytundeb “pob cynefin”; ni fydd ymgeiswyr yn gallu dewis pa ardaloedd cynefin i'w cynnwys yn y contract.
Gall ymgeiswyr gynnwys tir ychwanegol i'w reoli fel cynefin yn y cais.
Bydd proses gystadleuol ar gyfer sgorio a dethol ceisiadau. Bydd y cynllun yn targedu ardaloedd lle gellir sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf.
Gofynion rheoli:
Bydd tir a gyflwynir o fewn Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei osod o fewn 10 dosbarthiad cynefin bras, gyda gofynion rheoli sylfaenol wedi'u gosod ar gyfer pob dosbarthiad cynefin.
Y dosbarthiadau cynefin bras yw:
- Planhigion tir âr
- Rhos arfordirol a rhos llawr gwlad
- Graean bras arfordirol a thwyni tywod â llystyfiant
- Cynefinoedd gwlyb wedi’u hamgáu
- Coed, prysgwydd a choetir sydd eisoes yn bodoli
- Morfeydd heli
- Rheoli’r pori ar dir agored
- Glaswelltir sych parhaol heb unrhyw fewnbynnau
- Creigiau a sgri mewndirol
- Rheoli tir fel cynefin