UAC am gael enwebiadau ar gyfer gwobr cyfraniad eithriadol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) unwaith eto am gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ddatblygiad y diwydiant llaeth, ac sydd wedi dod yn rhan annatod o’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

I gydnabod unigolyn o’r fath, mae’r Undeb am gael enwebiadau ar gyfer gwobr UAC am Gyfraniad Eithriadol i’r Diwydiant Llaeth yng Nghymru. Cyhoeddir yr enillydd, a gwneir y cyflwyniad yn Sioe Laeth Cymru eleni ar 24ain Hydref 2023.

Dylai’r enwebiad fod ar ffurf llythyr neu eirda sy’n rhoi manylion llawn am waith a chyflawniadau’r enwebai, a dylid ei e-bostio i swyddfa UAC Caerfyrddin; This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ei anfon drwy’r post i UAC Caerfyrddin, Swît 10, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin, SA31 1LS erbyn diwedd y prynhawn ar 6ed Hydref 2023.