Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cynnal cymorth amaethyddol i’r economi wledig a chynnyrch amaethyddol, ar ôl cyhoeddi adroddiad yn tynnu sylw ar rôl cymorth uniongyrchol o fewn cadwyni cyflenwi da byw yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, sef ‘Rôl cymorth i ffermwyr o fewn cadwyni cyflenwi da byw yng Nghymru’ yn defnyddio pum mlynedd o ffigurau Arolwg Busnesau Fferm Cymru i ymchwilio i’r math o gynnydd o ran elw, neu ostyngiad o ran costau mewnbwn dethol y byddai ei angen i gynnal elw da byw cyfartalog ffermydd petai’r cymorth uniongyrchol yn cael ei gwtogi 50% a 100%.
Mae Cymru eisoes wedi colli mwy na £200 miliwn o ganlyniad i doriadau Trysorlys y DU i’n cyllideb amaethyddol, ac yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cwtogi cyllideb materion gwledig eleni o £37 miliwn ychwanegol.
Mae hyn yn golygu llai o arian, nid yn unig i ffermydd, ond hefyd y degau o filoedd o fusnesau eraill sy’n darparu gwasanaethau a nwyddau ar gyfer ein ffermydd.
Mae’n hanfodol bod gwleidyddion a llunwyr polisïau’n deall yn llawn y rôl economaidd a chwaraeir gan gymorth i ffermwyr o fewn cadwyni cyflenwi, a pheryglon y toriadau a’r newidiadau a awgrymir gan rai. Serch hynny, prin iawn yw’r dadansoddiadau a wneir gan lywodraethau cyn cynnig, neu roi newidiadau polisi ar waith.
Yn ôl amcangyfrifon UAC, heb gymorth uniongyrchol, mi allai gwariant ffermydd da byw yng Nghymru ostwng £38.87 miliwn ar borthiant, £12.15 miliwn ar driniaethau a meddyginiaethau milfeddygol, £9.83 miliwn ar lafur cyflogedig, £10.56 miliwn ar gontractio a £26.34 miliwn ar danwydd ac atgyweiriadau.
Amcangyfrifir ffigurau o’r fath drwy leihau’r gwariant ymhob un o gategorïau gwariant yr arolwg busnesau fferm yn ôl canran sefydlog er mwyn ‘mantoli’r cyfrifon’. Ond mewn gwirionedd, byddai ffermydd yn penderfynu canolbwyntio ar gwtogi mewn rhai meysydd yn fwy na’i gilydd, yn seiliedig ar benderfyniadau busnes. Mae hynny’n golygu y gallai’r lleihad yn nerbyniadau rhai mathau o fusnesau fod yn uwch o lawer mewn senario o’r fath.
Mi fyddai unrhyw doriadau, waeth beth oedd eu maint, yn cael effaith ddilynol ar nifer o fusnesau yng Nghymru yn ogystal â busnesau fferm, ac yn y senario achos gwaethaf, byddai rhai sectorau busnes yn colli degau o filiynau o incwm, gyda chanlyniadau anochel o ran hyfywedd busnesau a swyddi.
Mae UAC yn naturiol yn gobeithio na fyddai cyllidebau a pholisïau byth yn cael eu newid mewn ffordd a oedd yn arwain at effeithiau mor drychinebus i’n ffermydd a’r rhai sy’n dibynnu arnynt, ond mae’n ymwybodol iawn o’r pwysau i wneud newidiadau ysgubol.
Mae’n fater o bryder mai’r duedd, yn Llundain a Chaerdydd fel ei gilydd, fu symud ymlaen gyda chynigion a newidiadau heb gynnal yr ymchwiliadau manwl a’r dadansoddiadau ariannol sy’n ofynnol ar gyfer newidiadau enfawr o’r fath.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol mewn elw o fagu da byw, a’r gwerthiant fyddai ei angen i wneud iawn am leihau taliadau cymorth.
Gyda senario lle mae’r cymorth uniongyrchol yn cael ei leihau 50%, byddai angen elw cynyddol fesul dafad o rhwng £18.09 (ffermydd gwartheg a defaid ucheldir) a £24.06 (ffermydd gwartheg a defaid iseldir) ynghyd ag elw cynyddol fesul buwch o rhwng £120.63 (ffermydd gwartheg a defaid ucheldir) a £160.39 (ffermydd gwartheg a defaid iseldir) i gynnal elw cyffredinol ffermydd yn y senario a ymchwiliwyd – ffigurau sy’n cael eu dyblu gyda senario lle nad oes unrhyw daliadau cymorth.
Mae’r symiau hyn yn cynrychioli cynnydd enfawr sy’n edrych yn anodd neu’n amhosib ei gyflawni heb newidiadau mawr i’r hyn mae defnyddwyr yn ei dalu am fwyd, a sut mae’r arian yn cael ei ddosbarthu ar hyd y gadwyn gyflenwi, ac mae’n tanlinellu’r peryglon y mae newidiadau i’r cymorth yn eu cynrychioli i’r sector cynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio mai prin yw’r cyfleoedd i arallgyfeirio i lenwi unrhyw fylchau a adewir gan doriadau’r llywodraeth, gan nodi bod rhai, efallai, â’r gallu i newid i’r hyn a fu dros y blynyddoedd mwy diweddar yn sectorau amaethyddol mwy proffidiol, megis cynnyrch llaeth neu ddofednod, gydag eraill yn arallgyfeirio’n llwyddiannus i dwristiaeth neu sectorau eraill efallai, Hefyd, gall arallgyfeirio fod allan o gyrraedd llawer oherwydd fforddiadwyedd, cyfyngiadau cyfreithiol, a thopograffi a ffrwythlondeb y tir, yn ogystal â’r rhwystrau a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â dirlawnder y farchnad.
Dylid nodi hefyd bod sgiliau cyfran helaeth o’r rhai all geisio arallgyfeirio’u hincwm drwy weithio oddi ar y fferm yn rhai’r sector amaethyddol yn bennaf – sector a fyddai, yn ôl ei natur, yn llai tebygol o lawer o allu fforddio gwasanaethau rhai gyda set sgiliau o’r fath petai’r cymorth yn cael ei leihau.
Fel y cyfryw, rhai i lunwyr polisïau ac eraill fod yn ystyriol ac yn realistig am y prinder cyfleoedd i arallgyfeirio i wneud iawn am y colledion sylweddol o ganlyniad i newidiadau o’r fath.
Dylid pwysleisio bod y canlyniadau’n cynrychioli dadansoddiad syml o rai o effeithiau toriadau i’r BPS neu gyllid cyfatebol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, ac nad ydynt felly yn proffwydo’n fanwl beth fyddai’n digwydd yn wyneb toriadau o’r fath. Yn hytrach, maent yn darlunio ac yn ceisio meintioli rôl cymorth uniongyrchol o fewn cadwyni cyflenwi da byw, a’r pwysau gwahanol a ddeuai yn sgil toriadau o’r fath, ar ffermydd a busnesau eraill, ac yn y pen draw ar boblogaeth ehangach Cymru.
Serch hynny, mae’r gwaith yn dangos bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gynnal a diogelu’r cyllid cyffredinol ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig, yn ogystal â dangos bod angen ymchwilio’n ofalus i sut y gall polisïau effeithio, nid yn unig ar ffermydd, ond hefyd ar y busnesau a’r drefn cynhyrchu bwyd sy’n dibynnu arnyn nhw.
Ar lefel Llywodraeth y DU, mae UAC yn disgwyl iddyn nhw anrhydeddu eu hymrwymiad i warantu cyllid i ddisodli cyllid blynyddol PAC ar lefelau 2019 am y flwyddyn ariannol nesaf.
Fodd bynnag, ni ddylid anghofio y dylai’r gyllideb PAC gyfan ar gyfer Cymru fod yn gyfanswm o tua £500 miliwn erbyn hyn, o’i gymharu â phan bennwyd cyllideb PAC 2014-20 yn 2013, o ystyried lefelau chwyddiant, a phetaem wedi aros yn yr UE ac wedi derbyn yr holl gyllid sydd ar gael, y byddai ein cyllideb amaethyddol yn uwch o lawer erbyn hyn nag ydyw ar hyn o bryd.
Nid yw UAC erioed wedi dadlau dros gadw’r sefyllfa fel y mae, ac mae wedi cyflwyno cynigion ar gyfer cynllun newydd y mae’n ffyddiog fyddai’n cynnal rôl ffermydd teuluol Cymru o ran cefnogi busnesau eraill, gan gynhyrchu bwyd o’r ansawdd gorau, a sicrhau buddiannau amgylcheddol mawr i Gymru ar yr un pryd.
Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y modd y mae’n dylunio ac yn gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei ymchwilio’n drylwyr yn nhermau’r math o effeithiau a ddatgelir yn ein hadroddiad, a’i bod yn rhoi ystyriaeth i bryderon a chynigion UAC.