Gwaredu Scab – Ffenestr bresennol wedi cau ar gyfer ymholiadau newydd

Mae swyddfa Gwaredu Scab wedi bod yn derbyn lefelau uchel iawn o ymholiadau yn ddiweddar gan ffermwyr sydd am gymryd rhan yn y prosiect.  Mae hyn wedi arwain at amserau aros hirach cyn bod swyddogion yn ymweld â ffermydd mynegai, ac yn gwneud ymweliadau dilynol â ffermydd cyswllt.

O ganlyniad i’r pwysau gwaith hwn mae’r amserau aros yn cynyddu.

I atal cynnydd pellach yn nifer yr ymholiadau, a’r ffrâm aros hirach o ganlyniad i hynny, mae Gwaredu Scab wedi penderfynu cau’r ffenestr bresennol ar gyfer ymholiadau newydd er mwyn canolbwyntio ar y rhestr bresennol.

Ni fydd Gwaredu Scab yn cymryd unrhyw ffermydd newydd am o leiaf 4 – 6 wythnos er mwyn clirio’r llwyth gwaith sydd wedi pentyrru.

Os oes angen dipio defaid, yna'r argymhelliad yw eu bod yn cael eu dipio’n breifat oherwydd yr amser aros hir hwn.

Unwaith y bydd y gwaith sydd wedi pentyrru wedi’i glirio, bydd Gwaredu Scab yn cysylltu unwaith eto gyda chynlluniau ar gyfer y dyfodol.