Mae’r Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn ddigwyddiad blynyddol sy’n annog ffermwyr a rheolwyr tir i gofnodi rhywogaethau adar a’u niferoedd ar eu ffermydd. Mae cyfrif eleni’n digwydd rhwng 2 – 18 Chwefror 2024.
Nod y cyfrif yw codi ymwybyddiaeth o‘r rôl bwysig mae ffermwyr yn ei chwarae o ran cadwraeth adar ffermdir, ac i fesur effaith y gwaith cadwraeth mae nifer o ffermwyr a chriwiau saethu’n ei gyflawni.
Mae’n hawdd cymryd rhan yng nghyfrif 2024. Ar un diwrnod, rhwng 2il a 18fed Chwefror, treuliwch tua 30 munud yn cofnodi’r mathau o adar a’r niferoedd a welwyd yn un rhan arbennig o’r fferm. Gallwch ddewis eich lleoliad eich hun, ond byddai rhywle gyda golygfa dda o tua 2 hectar o’r fferm yn ddelfrydol.
Gellir cyflwyno’r canlyniadau un ai drwy’r post neu ar-lein.
I gael manylion llawn ar sut i gymryd rhan ewch i: