Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi ymateb llugoer i Gyllideb yr Hydref, a gyhoeddwyd gan y Canghellor Jeremy Hunt.
Serch y gostyngiad diweddar yn y cyfraddau chwyddiant, nid yw hyn wedi arwain eto at ostwng y cyfraddau llog, ac mae Banc Lloegr yn dweud na ddylem ddisgwyl llawer o newid yn y dyfodol agos. Mae hwn yn bryder go iawn i fusnesau o bob math, gan gynnwys busnesau fferm.
Er bod UAC yn llwyr ddeall yr angen i gael chwyddiant dan reolaeth, ni ddylai hyn fod a draul gallu ffermwyr i adennill costau cynhyrchu. Mae llawer o dystiolaeth yn ddiweddar bod y cwymp ym mhris cynhyrchion llaeth yn cael effaith andwyol go iawn ar brisiau gât y fferm.
Mae hwn yn ddatganiad cyllidol eitha’ siomedig gan Lywodraeth y DU, sy’n gwneud fawr ddim i ddatrys yr argyfwng costau byw, na fawr ddim chwaith i gynyddu hyder o fewn y gymuned fusnes.
Mae ffermwyr yng Nghymru wedi colli hyder yn sgil cytundebau masnach sy’n niweidio’u buddiannau, toriadau i gyllid amaethyddol Cymru a gyfiawnhawyd ar sail ystrywiau cyfrifo, a Llywodraeth Cymru na all, yn ôl pob golwg, gyflenwi cynllun cynefin clir ar gyfer ffermwyr wrth inni adael y system cymorth ffermio flaenorol.
Roedd yna gyfle i Lywodraeth y DU i roi hwb sydd ei wir angen i’r sector, ond ymddengys y bydd angen inni aros unwaith eto i weld y problemau sy’n wynebu’r gymuned ffermio’n cael eu hystyried o ddifrif gan Lywodraeth San Steffan.