Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r costau a’r beichiau gweinyddol a osodir ar geidwaid da byw o ganlyniad i’r drefn profion TB bresennol yng Nghymru. Mae’r alwad yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig yn amlinellu gofynion profi ychwanegol ar gyfer ardaloedd risg Isel a Chanolig yng Nghymru.
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o’r Cynllun Cyflawni 5 Mlynedd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. O 1af Chwefror 2024, cyflwynir profion cyn symud o fewn Ardaloedd TB isel yng Nghymru, a bydd gwartheg sy’n symud i Ardal TB Canolig o ardal TB Uchel yng Nghymru, Ardal Risg Uchel yn Lloegr, ac o Ogledd Iwerddon hefyd angen prawf ar ôl symud.
Gall ffermwyr ddal ati i symud gwartheg sydd wedi cael canlyniad clir mewn prawf goruchwyliaeth rheolaidd wedi’i ariannu gan y llywodraeth, megis y prawf buches blynyddol.
Ni fydd y cyhoeddiad am ofynion profi pellach ar gyfer gwartheg yn fawr o syndod i nifer o aelodau UAC, o ystyried y cynigion oedd yn rhan o ymgynghoriad TB diwethaf Llywodraeth Cymru. Yn ei hymateb, amlinellodd yr Undeb y dylai’r effaith ddisgwyliedig ar les gwartheg, ac iechyd a lles dynol, yn sgil y casglu a’r handlo ychwanegol sy’n ofynnol i gydymffurfio â’r cynigion profi ychwanegol gael eu pennu cyn cyflwyno unrhyw ofynion profi ychwanegol.
Fel rhan o’i hymateb i’r ymgynghoriad ar ail-gyflwyno profion cyn symud o fewn Ardaloedd TB Isel, dywedodd UAC mai diogelu yn erbyn y clefyd ddylai fod yn flaenoriaeth i fuchesi o’r fath, ond dim ond mewn ffordd sy’n gymesur â’r risgiau sy’n codi yn sgil gweithgaredd penodol, a’r buddiannau a ddaw yn sgil polisi penodol.
Er bod UAC yn cydnabod yr angen i ddiogelu Ardaloedd Risg Isel rhag lledaeniad y clefyd, rhaid rhoi ystyriaeth lawn i gost a budd profion cynyddol. Yn ôl data a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng 2017 a 2022 cynhaliwyd dros 860,000 o brofion cyn symud. O’r rhain, datgelwyd 0576 o adweithyddion a 610 o adweithyddion amhendant yn unig. Yn yr Ardaloedd TB Isel, cafwyd 2 adweithydd yn unig dros y cyfnod hwn - un yn 2020 ac un yn 2021 - ond cynhaliwyd mwy na 43,000 o brofion cyn symud. Dros yr un cyfnod o fewn Ardaloedd Risg Canolig, ni ddatgelwyd unrhyw adweithyddion o’r profion ar ôl symud.
Mae costau cynyddol y polisïau newydd hyn yn dod ar adeg pan mae’r diwydiant yn wynebu gostyngiadau posib i’r iawndal a delir i geidwaid gwartheg yn sgil y gofyniad gorfodol i ddifa gwartheg sydd wedi’u heintio â TB.
Mae costau ariannol ac emosiynol TB gwartheg yn aruthrol. Roedd dadansoddiad a wnaed gan UAC yn dangos bod cyfanswm cost amcangyfrifedig profion TB cyn symud a wynebwyd gan geidwaid gwartheg yng Nghymru yn 2022 yn fwy na £2.3 miliwn. Mae hwn yn gynnydd o 129% yng nghostau profion y diwydiant ers 2006.
Fodd bynnag, dim ond ffracsiwn yw costau profion o’r costau a wynebir gan y diwydiant mewn perthynas â’r clefyd hwn. Ni chynigir unrhyw iawndal am gostau ychwanegol megis colli refeniw, cynhyrchu llai o laeth, colli llinellau bridio, oedi cyn ail-stocio a chyfyngiadau ar symud anifeiliaid. Gall y colledion canlyniadol hyn a wynebir gan gynhyrchwyr y mae eu hanifeiliaid wedi’u prynu’n orfodol fod yn sylweddol, a gallant fod yn ddegau o filoedd o bunnau.
Mae UAC felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad go iawn o gost a budd cynigion o’r fath, a rhoi ystyriaeth lawnach i’r effaith gyffredinol ar fusnesau fferm cyn gweithredu ar hyn.