Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol (Y Gweinidog Bioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig), y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Beynon, yn gofyn bod newidiadau yn y ddeddfwriaeth ar ymosod ar dda byw’n cael eu cadarnhau yn araith y Brenin ym mis Tachwedd, yn dilyn y tro pedol gyda’r Bil Anifeiliaid a Gedwir yn yr haf.
Mewn llythyr at yr Arglwydd Beynon, tynnodd UAC sylw at y ffaith bod ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yng Nghymru a Lloegr yn parhau i fod yn broblem sylweddol – yn ariannol, yn emosiynol ac o ran llesiant teuluoedd ffermio gweithgar a diwyd.
Er yn brin, lle mae data ar ymosodiadau ar dda byw wedi’i gofnodi gan heddluoedd troseddau gwledig, mae’r canlyniadau’n dangos bod hon yn broblem sylweddol sydd ddim yn dangos unrhyw arwyddion o leihau. Er enghraifft, yn ôl data a gyhoeddwyd gan Heddlu Gogledd Cymru roedd mwy na 100 o ymosodiadau o fewn cyfnod o 12 mis yn 2023, gydag adroddiadau am nifer fawr o anafiadau a marwolaethau.
Dangosodd dadansoddiad pellach o ffermydd Gogledd Cymru bod yna 449 o achosion o ymosodiadau ar dda byw rhwng 2013 a 2017, sy’n dangos natur barhaus a ddidostur y troseddau hyn. Yn ogystal, dros yr un cyfnod o bedair blynedd canfu data 5 o heddluoedd - Gogledd Swydd Efrog, Dyfnaint a Chernyw, Sussex, Gogledd Cymru a Swydd Hertford - bod 1,705 o achosion o boeni ac ymosod ar dda byw wedi’u cofnodi yn y 5 ardal heddlu.
Yn ystod y digwyddiadau hyn cafodd 1,928 o anifeiliaid eu lladd a 1,614 eu hanafu, gyda chost amcangyfrifedig o £250,000 i fusnesau ffermio. Mae’n werth nodi mai troseddwyr mynych oedd yn gyfrifol am 11 y cant o’r digwyddiadau.
Er gwaethaf ystadegau mor sylweddol, mae UAC o’r farn bod hyn yn cynrychioli ffracsiwn yn unig o’r holl golledion a ddioddefwyd gan ei haelodau.
Yn y llythyr, mae UAC yn pwysleisio:
“At present, neither the police nor other agencies are required by the Home Office to record statistics of livestock attacks or mortalities and the FUW believes that this crime remains significantly under-reported and under-recorded.
The inability to officially monitor the extent and impact of the issue - coupled with a lack of police powers to bring offenders to justice - has eroded confidence in reporting amongst our membership.”
Yn ogystal, pwysleisiodd yr Undeb fod diffyg fframwaith cyfreithiol cadarn yn golygu nad oes unrhyw beth go iawn yn atal pobl rhag troseddu
Ochr yn ochr â gwneud hi’n ofynnol i holl heddluoedd Cymru gofnodi achosion o gŵn yn ymosod ar dda byw, mae UAC o’r farn y dylai methu â rhoi gwybod am ymosodiad gan gŵn fod yn drosedd, er mwyn sicrhau nad yw defaid sydd wedi’u hanafu’n wael yn cael eu gadael gyda phroblemau lles sylweddol.
Yn ogystal, dylai’r dirwyon a roir i droseddwyr fod yn gymesur â chanlyniadau ariannol a goblygiadau lles difrifol y drosedd hon, a dylent ganiatau ar gyfer iawndal llawn. Galwodd yr Undeb hefyd am fframwaith cyfreithiol ar gyfer y mater hwn i sicrhau bod gan heddluoedd y pwerau angenrheidiol i allu cynnal ymchwiliad llawn, ynghyd â phwerau gorfodi a chosbi troseddau o’r fath. Mae hyn yn cynnwys pwerau i chwilio a chipio, i gael samplau DNA o gŵn a amheuir, i fynd â chŵn ymaith, i wahardd perchnogion rhag cadw ci arall, ac i ddifa ci a geir yn euog.
Mae’r dystiolaeth mewn perthynas â natur a nifer yr achosion o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn golygu bod UAC bellach o’r farn mai’r unig ffordd o daclo troseddau o’r fath yn iawn yw trwy gyflwyno deddfwriaeth newydd, sy’n addas i’r diben ac sy’n cydnabod y colledion sylweddol – y gellid eu hosgoi – a wynebir gan deuluoedd ffermio gweithgar a diwyd yn sgil ymosodiad gan gŵn.
Mae hi bellach yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i warchod cymunedau gwledig drwy sicrhau bod yr elfennau hyn o Fil Anifeiliaid a Gedwir y DU yn cael eu cyflwyno, ac mae felly’n angenrheidiol bod yr agweddau hyn yn cael eu codi eto, a’u cynnwys yn Araith y Brenin ym mis Tachwedd.