Mae Heddlu Dyfed Powys wedi adrodd am nifer o achosion o ladrata yng Ngogledd Ceredigion, Powys a’r Gororau.
Maent yn atgoffa ffermwyr o bwysigrwydd bod yn wyliadwrus a sicrhau eu bod yn diogelu eu heiddo a’u cerbydau ac ati. Mae’r Tîm Troseddau Gwledig yn cynnig cyngor ar atal troseddau os oes angen.
Maent hefyd wedi gweld cynnydd yn y nifer o achosion o hela sgwarnogod, gyda phobl yn tresmasu ar dir, ac maent yn annog pobl i roi gwybod am y digwyddiadau hyn drwy eu system ar-lein neu system 101.
I gael cyngor ar ddiogelu’ch fferm, ewch i: https://www.securedbydesign.com/guidance/crime-prevention-advice/rural-agricultural-security-advice