Y cyhoeddiad ar Adnoddau Dŵr yn gyfle da i ddylanwadu ar newid medd UAC

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), sy’n nodi’r bwriad i ohirio gweithredu’r terfyn nitrogen blynyddol fferm gyfan o 170kg fesul hectar, ac ymgynghori ar gynllun trwyddedu i gynyddu’r terfyn hwnnw, yn cael ei groesawu fel cyfle i ddylanwadu ar newid.

Roedd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar Ddydd Mercher 5ed Hydref 2022, a gyhoeddwyd o dan y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, yn cydnabod bod rhai busnesau fferm, o ganlyniad i ansicrwydd, wedi gohirio gwneud penderfyniadau buddsoddi a gwneud y paratoadau angenrheidiol.

I gydnabod yr amgylchiadau hyn, nododd y Gweinidog ei bwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu yr hydref hwn i fod yn weithredol tan 2025, gan ddarparu estyniad byr i weithredu’r terfyn nitrogen fferm gyfan o 170kg fesul hectar tan fis Ebrill 2023.

Llwyth cyntaf o gig oen Cymreig PGI i’w anfon i’r Unol Daleithiau mewn degawdau yn newyddion da i’r diwydiant medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r newyddion bod y llwyth cyntaf o gig oen Cymreig PGI mewn degawdau wedi’i anfon i’r Unol Daleithiau.

Cafodd y  llwyth cyntaf o gig oen DU ar gyfer yr Unol Daleithiau ers y gwaharddiad ar fewnforion yn 1996 oherwydd y risgiau posib o BSE, ei brosesu yn Dunbia yn Sir Gaerfyrddin, y safle cyntaf yn y DU i gael ei gymeradwyo ar gyfer allforion.

Croesawodd UAC y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU Boris Johnson ym mis Medi y llynedd bod disgwyl y byddai’r gwaharddiad hirsefydlog yn cael ei godi.

UAC yn pwysleisio pwysigrwydd craffu yn sesiwn dystiolaeth y Bil Masnach

Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru bwysigrwydd craffu ar unrhyw gytundebau masnach a wnaiff y DU pan roddodd dystiolaeth gerbron pwyllgor y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) ar Ddydd Mercher 12 Hydref.

Croesawodd UAC y cyfle i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.  Serch bod y Bil hwn yn cyfeirio’n benodol at adrannau caffael y cytundebau masnach ac, os caiff ei basio, hwn fydd y darn olaf o’r jig-so o ran caniatáu i Lywodraeth y DU gadarnhau’r cytundebau masnach, roedd, serch hynny’n darparu cyfle i leisio pryderon ynghylch yr effeithiau posib, a’r broses graffu bresennol.

Os gall cynhyrchwyr Seland Newydd ac Awstralia wneud cais am gontractau caffael yn y DU, mi fydd hynny’n gymhelliad pellach i foddi marchnadoedd y DU.  O fewn y darlun mawr byd-eang, mae’n annhebygol y byddai cynhyrchwyr y DU yn gallu cystadlu am gontractau caffael yn eu gwledydd oherwydd y gwahaniaethau o ran cyfraddau a dulliau cynhyrchu, ond mae hyn, yn y bôn yn pwysleisio pwysigrwydd cyfeirio polisïau caffael yn y DU tuag at gynnyrch Cymreig a Phrydeinig.

UAC yn croesawu’r cyhoeddiad am daliadau BPS ymlaen llaw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd 97% o ffermwyr sy’n hawlio Cynllun Taliad Sylfaenol yn derbyn taliad ymlaen llaw ar 14eg Hydref 2022.  Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd 70% o werth amcangyfrifedig eu hawliad yn cael ei dalu, sy’n golygu y bydd dros £161 miliwn yn cael ei dalu i dros15,600 o fusnesau fferm yng Nghymru.

Bydd busnesau fferm yn derbyn taliadau llawn a gweddill balans BPS 2022 o 15fed Rhagfyr  2022, yn amodol ar ddilysu’r hawliad yn llawn. 

Mae UAC wedi dweud bod hyn yn newyddion gwych i’r sector ac i’r holl fusnesau fferm ledled Cymru a fydd yn derbyn rhandal cyntaf y taliad ar 14eg Hydref, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol.  Mae’n gredyd i Lywodraeth Cymru bod y system hon yn gweithio mor dda ac mi ddylai fod yn esiampl i eraill.  Mae’n hanfodol felly bod mecanwaith ariannol o’r fath yn aros yn ei le yn y dyfodol, i sicrhau nad yw busnesau fferm a’r economi wledig ehangach yn dioddef.

Crynodeb o newyddion Hydref 2022

Rhagweld y bydd lefelau cynhyrchu grawnfwyd yr UE yn is na’r cyfartaledd

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Gomisiwn yr UE yn rhagweld y bydd lefelau cynhyrchu grawnfwyd yr UE 8% yn is na’r llynedd a 5.1% yn is na’r cyfartaledd 5 mlynedd.

Yn y gorffennol mae’r UE wedi llacio rheolau amgylcheddol er mwyn ceisio codi’r lefelau cynhyrchu, gan ganiatáu i ffermwyr blannu cnydau ar ardaloedd amgylcheddol, oherwydd prinder yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, serch llacio’r rheolau amgylcheddol, bod yr ardal a blannwyd ar draws yr UE 1.3% yn llai na’r cyfartaledd 5 mlynedd.  Yn ogystal â lleihad ym maint yr ardal a blannwyd, mae cyfnod o sychder ar draws yr UE dros yr haf wedi gwaethygu’r sefyllfa, gyda maint y cnydau a gynaeafwyd i lawr 7% o’i gymharu â 2021 a 3% yn is na’r cyfartaledd 5 mlynedd.

Rhowch adborth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae arolwg ar y gweill a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddeall yn well sut y bydd y camau gweithredu a’r prosesau a osodwyd yn y cynigion bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn gweithio ar draws gwahanol fathau o ffermydd.

Mae’r arolwg wedi’i gynllunio i ddeall a ydy ffermwyr yng Nghymru’n teimlo y gallant gymryd y camau gweithredu a gynigiwyd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy bras diweddar, ac os na, beth yw’r prif rwystrau, a pha gymorth pellach fyddai ei angen.

Mae’r camau gweithredu’n ymestyn dros nifer o feysydd gwahanol, o wella perfformiad y busnes a gwella iechyd da byw, i wella dulliau o reoli priddoedd, cynefinoedd a choetiroedd.

Cyfrifoldebau perchnogion a meddianwyr tir dros goed sy’n ffinio â’r rhwydwaith mynediad

Dan Adran 154(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n ofynnol bod perchnogion a meddianwyr tir yn tocio llystyfiant ar goed, llwyni neu wrychoedd sy’n crogi dros y rhwydwaith mynediad, fel nad ydynt yn peryglu cerbydau, cerddwyr a rhai sy’n marchogaeth ceffylau.  Mae hyn yn berthnasol i ffyrdd a llwybrau troed ond hefyd i lwybrau o fewn ardaloedd y mae gan y cyhoedd fynediad atynt.

Hefyd, dan adran (2) o Ddeddf Priffyrdd 1980, gellir cyflwyno hysbysiad i berchennog neu reolwr tir i dynnu unrhyw wrych, coeden neu lwyn sy’n farw, yn heintiedig, wedi’i ddifrodi neu  â gwreiddiau anniogel.

Os na chaiff y gwaith o dynnu gwrychoedd, coed neu lwyni ei gyflawni a’i fod yn debygol o rwystro neu achosi perygl drwy gwympo ar ddefnyddwyr y rhwydwaith, yna gall awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad i gwblhau’r gwaith o fewn 14 diwrnod.  Gall methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod o 14 diwrnod olygu bod yr awdurdod lleol yn cwblhau’r gwaith ac yna’n adennill costau rhesymol gan y perchennog/rheolwr tir.

Prosiect ymchwil DNA yn helpu i ymchwilio i ymosodiadau ar dda byw

Mae Heddlu Gogledd Cymru a thîm ymchwil fforensig yn cydweithio i ddarparu cymorth amhrisiadwy ar gyfer ymchwilio i ymosodiadau ar dda byw yn y dyfodol.

Amcangyfrifir bod ymosodiadau gan gŵn ar dda byw wedi costio £1.52 miliwn i ffermwyr Prydain y llynedd, yn ôl data’r diwydiant.  Ar gyfartaledd, yng Ngogledd Cymru, ceir oddeutu 120 o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw bob blwyddyn.  Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu cyflawni gan gŵn sydd wedi dianc o’u cartrefi, ac mae nifer o’r achosion hyn yn ymosodiadau ar ddefaid.

Gyda chyllid a ddarparwyd gan DEFRA, mae swyddogion Gogledd Cymru wedi uno gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i roi proses ymchwilio seiliedig ar DNA ar waith, i nodi cŵn a amheuir o fod wedi ymosod ar dda byw.

Ymweliad am Ddim Diogelwch Tân ar Ffermydd Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am weithio gyda theuluoedd ffermio i gadw anwyliaid, cartrefi, tir ac anifeiliaid yn ddiogel rhag tân.

Mae’r Gwasanaeth yn gwahodd ffermwyr i wneud cais am Ymweliad Diogelwch Tân ar Ffermydd rhad ac am ddim i helpu i baratoi cynllun i leihau’r perygl o dân. Byddant yn helpu gyda’r canlynol:

Y gwir am gost gynyddol tor diogelwch data

Er bod nifer o fusnesau fferm yn mynd yn fwy a mwy gwyliadwrus wrth ddiwygio eu polisïau gwaith i liniaru’r perygl o ymosodiadau seiber, mae nifer fawr ohonynt heb fesurau  digonol yn eu lle o hyd i’w diogelu rhag troseddau seiber.

Serch bod nifer yr ymosodiadau penodol a gafodd effaith ariannol wedi lleihau rhyw fymryn dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r costau cyffredinol i’r rhai a effeithiwyd wedi codi’n ddramatig.  Ers 2017, pan oedd y gost uniongyrchol i fusnesau yn £1,380 ar gyfartaledd, mae’r ffigur wedi tyfu erbyn hyn i £3,150 yn 2019.  Nid yw’r swm hwn yn rhoi ystyriaeth i’r costau adfer a’r costau hirdymor, all fod yn gyfanswm o tua £3,000 ar gyfartaledd.

Er bod nifer y busnesau mawr a chanolig sy’n diogelu eu busnesau gydag yswiriant seiber wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, dim ond 11% o fusnesau a 6% o elusennau sydd ag yswiriant arbenigol yn ei le.  Ar ben hynny, ychydig dros traean yn unig o fusnesau sydd ag aelod bwrdd neu ymddiriedolwr sy’n benodol gyfrifol am seiberddiogelwch.

Gweminar am ddim ar gadw’n ddiogel wrth weithio gyda choed

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol yn cynnal gweminar am ddim ar gadw’n ddiogel wrth weithio gyda choed.

Mae’r weminar am ddim yn agored i bawb sy’n gweithio gyda choed.

Mae hon yn weminar gan y Bartneriaeth Diogelwch Fferm.

Annog ffermwyr i gael yswiriant cyfreithiol ar gyfer eu busnesau

Anogir ffermwyr ar draws Cymru i sicrhau bod yr yswiriant cyfreithiol iawn ganddynt ar gyfer eu busnesau, i osgoi cael eu hunain yn ddiamddiffyn mewn sefyllfa gyfreithiol.

Mae yswiriant cyfreithiol yn darparu cymorth cyfreithiol os bydd ei angen mewn sefyllfaoedd megis ymchwiliadau gan CThEM neu Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ymgyrchwyr dros hawliau anifeiliaid, damwain fferm angheuol neu gyflafareddiadau rhent.

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW nawr yn cynnig gwasanaeth newydd, sef ‘Rural Protect’ gan HB Underwriting, sef yswiriant atebolrwydd rheoli sy’n cwrdd ag anghenion ffermwyr i ddiogelu pawb yn eu busnes.

Taclo defnydd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd: Gwersi a ddysgwyd yn y Deyrnas Unedig

Cyhoeddwyd adroddiad gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, yn adrodd sut mae’r DU wedi llwyddo i roi mesurau ar waith i leihau defnydd diangen o wrthfiotigau ar ffermydd, ac wedi llwyddo i haneru gwerthiant gwrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid ers 2014.  Hefyd, dros yr un cyfnod, mae’r defnydd o wrthfiotigau hanfodol bwysig uchaf eu blaenoriaeth wedi gostwng  79%.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi mabwysiadu agwedd wahanol i nifer o wledydd eraill wrth ddatblygu ei system stiwardio gwrthfiotigau.  Yn hytrach na rheoleiddio, mae’r llywodraeth wedi gweithio  gyda ffermwyr a milfeddygon, gan eu cynorthwyo i gymryd camau i leihau defnydd diangen o wrthfiotigau.

Mae gan bob sector ffermio ddulliau sydd wedi’u datblygu a’u teilwra’n unigol, sy’n gwella hwsmonaeth ac yn mabwysiadu mesurau atal clefydau, i leihau’r ddibyniaeth ar wrthfiotigau.

UAC yn rhybuddio am y perygl o wenwyno gan fes

Mae UAC yn rhybuddio ei haelodau i fod yn ymwybodol o’r perygl o ddefaid a gwartheg yn cael eu gwenwyno gan fes, yn sgil nifer o adroddiadau diweddar am golli stoc.

Yn ôl NADIS, gwenwyno gan fes yw un o achosion mwyaf cyffredin gwenwyno gan blanhigion ymhlith gwartheg a defaid.  Gall y broblem waethygu wrth i’r tywydd droi’n fwy garw yn yr hydref a chyda’r arolygon am wyntoedd cryfion a thywydd tymhestlog.

Mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys iselder, colli pwysau’n gyflym, blinder, chwydu a dolur rhydd.  Os bwyteir digon ohonynt, gall mes achosi namau geni mewn buchod cyflo.  Gwyddys bod y tannin a geir mewn mes yn niweidio’r arennau, ac mae mwyafrif y marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyno gan fes oherwydd methiant yr arennau.

Ffenestr ariannu sgiliau Cyswllt Ffermio

Bydd ffenestr ymgeisio ar gyfer hyfforddiant cymorthdaledig yn agor ar Hydref 17eg am UN WYTHNOS YN UNIG.

Mae’r ffenestr ymgeisio am ariannu sgiliau yn agor am 9am ar Ddydd Llun 17 Hydref 2022 ac yn cau am 5pm ar Ddydd Gwener 21ain Hydref 2022.

Mae 20 o gyrsiau byr ar gael dan y categorïau ‘Busnes’, ‘Tir’ a ‘Da Byw’.  Bydd yr holl gyrsiau hyfforddiant â chymhorthdal o hyd at 80% ar gyfer unigolion cofrestredig.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Hydref 2022

CLICIWCH yma i weld dyddiadau ffenestr Mynegi Diddordeb mis Hydref 2022

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hanner ffordd yna meddai UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi gwneud sylwadau ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) gan ddweud bod y darn cynhwysfawr o ddeddfwriaeth hanner ffordd yna i ddarparu sylfaen sefydlog i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.

Cafodd drafft cyntaf y Bil ynghyd â’i ddogfennaeth ategol eu gosod gerbron y Senedd ar 26ain o Fedi, gan Weinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, cyn dadl yn y Senedd ar 27ain o Fedi.

Mae’r Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru wedi’i osod gerbron y Senedd, gan roi’r cyfle i ddatblygu polisïau ffermio a allai fod o fudd gwirioneddol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd y Bil yn nodi’r ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac yn sbarduno’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Gwell hwyr na hwyrach o ran cymorth i fusnesau yn ystod yr argyfwng ynni medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar Ddydd Mercher 21 Medi yn amlinellu cynlluniau i helpu i leihau biliau ynni busnesau, ond dywed y gall fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr i rai.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni, sy’n anelu at ddarparu help i fusnesau a chwsmeriaid annomestig eraill dros y gaeaf sydd i ddod, drwy osod prisiau cyfanwerthu disgwyliedig o £211 fesul MWh o drydan a £75 fesul MWh o nwy.

Hyd yma, bu’r ffocws yn bennaf ar brisiau ynni domestig a’r angen i’r llywodraeth ymyrryd i helpu teuluoedd, a hynny’n hollol iawn, o ystyried y cynnydd mewn prisiau a ddisgwylir ym mis Hydref, ond mae prisiau ynni i fusnesau wedi cael llai o sylw o lawer.

UAC yn llongyfarch Prif Weinidog newydd y DU gan amlinellu’r pryderon parhaus

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu i longyfarch Prif Weinidog newydd y DU, Liz Truss, ac wedi gosod y pryderon presennol a’r pryderon hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.

Ysgrifennodd Llywydd UAC, Glyn Roberts at Liz Truss ar ran UAC yn ei llongyfarch ar ymgyrch lwyddiannus ac ar gael ei phenodi’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae’r DU gyfan yn wynebu cyfnod cythryblus ac er y bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai heriol i Lywodraeth y DU, mae UAC o’r farn bod y rhaid i’r diwydiant bwyd ac amaeth a’r ffermydd teuluol hynny sydd wrth galon y diwydiant chwarae rôl ganolog yn taclo’r heriau presennol a’r heriau fydd yn wynebu’r wlad dros y tymor hirach.

UAC yn cefnogi bwriadau ac amcanion y Bil Bwyd drafft

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i Fil Bwyd (Cymru) drafft Peter Fox, gan gefnogi bwriadau ac amcanion y Bil mewn egwyddor.

Roedd yr Aelod o’r Senedd dros Fynwy, Peter Fox AS, yn llwyddiannus mewn pleidlais yn rhoi’r hawl i Aelod Anllywodraethol o’r Senedd i gyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith newydd, ac mae ganddo tan 17 Rhagfyr 2022 i gwblhau a chyflwyno ei Fil Bwyd arfaethedig.

Yn ei hymateb, cyfeiriodd UAC at y ffordd mae pandemig Covid-19 a rhyfel presennol Rwsia yn erbyn Wcráin wedi dangos pa mor sensitif y gall cadwyni cyflenwi bwyd a nwyddau amaethyddol fod i ddigwyddiadau byd-eang, gan ein hatgoffa’n bendant iawn am beryglon dibynnu ar fewnforio bwyd a deunydd crai.

UAC yn rhoi croeso gofalus i’r bwriad i blannu llai o goed ar safle Llangadog

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi croeso gofalus i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gwtogi ar gynlluniau i blannu coed ar dir amaethyddol da yn nyffryn Tywi.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror eleni ei bod hi’n bwriadu plannu ar 94 hectar (232 acer) o dir ffermio a brynwyd ganddi yn Brownhill ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin – gan gythruddo’r gymuned leol a chymunedau ledled Cymru.

Amheuir bod y Llywodraeth o’r farn y byddai brandio’r prosiect yn ‘goetir coffa covid’ yn lliniaru’r gwrthwynebiad i golli tir ffermio gwerthfawr ar adeg pan welwyd llawer o dir yn yr ardal yn cael ei brynu gan bobl o’r tu allan ar gyfer plannu coed.

Ffermwyr yng Nghymru’n falch o’u cynnyrch safonol a maethlon - medd UAC wrth Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ‘Amgylchedd Bwyd Iach - Archwilio cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yng Nghymru yn iachach’, gan bwysleisio bod ffermwyr yn falch o ansawdd da'r bwyd maent yn ei gynhyrchu.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, pwysleisiodd yr Undeb ei bod hi’n gefnogol ar y cyfan i’r themâu a nodwyd yn yr ymgynghoriad i annog basgedi siopa iachach, bwyta’n iachach y tu allan i’r cartref, ac amgylcheddau bwyd lleol iachach, gan olygu mai’r ‘dewis iach yw’r dewis hawdd’.

Mae aelodau UAC yn falch o’r cynnyrch fferm Cymreig o ansawdd da maen nhw’n ei gynhyrchu ar gyfer y boblogaeth leol yng Nghymru a thu hwnt. Mae UAC am weld hyrwyddo pellach ar y safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel y mae ffermwyr yn gorfod, ac yn dymuno, cadw atynt, ochr yn ochr â gwerth maethlon uchel cynnyrch Cymreig o fewn amgylchedd sy’n cynhyrchu bwyd iach a chytbwys mewn ffordd gynaliadwy.

Crynodeb o newyddion Medi 2022

Allforion bwyd a diod yn tyfu
Mae allforion bwyd a diod wedi cynyddu i’w lefelau uchaf ers 2019. Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Ffederasiwn Bwyd a Diod ar gyfer hanner cyntaf 2022 yn dangos bod allforion bwyd a diod yn gyffredinol wedi codi 3.1% o’i gymharu â 2019. Syrthiodd allforion i’r UE 5.1%, ond cododd allforion i wledydd y tu allan i’r UE 15.9%.
Roedd allforion cig oen a chig dafad i fyny 29.6%, cig eidion i fyny 19.1%, porc i fyny 13.1% a chaws i fyny 4.3%. Roedd cyfanswm gwerth allforion yn ystod 6 mis cyntaf 2022 yn £11.4 biliwn. Cafwyd cynnydd sylweddol yn y mewnforion bwyd a diod yn ystod y cyfnod hefyd, a oedd yn gyfanswm o £18.2 biliwn, sef cynnydd o 22.1% o’i gymharu â 2019.

Etholiadau pwyllgorau rhanbarthol Gwlân Prydain

Mae Gwlân Prydain wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Cynrychiolwyr Sirol.

Mae strwythur llywodraethu Gwlân Prydain yn cynnwys naw o ranbarthau ar draws y DU, gydag 81 o gynrychiolwyr sirol a etholir gan ffermwyr yn cynrychioli aelodau eu siroedd eu hunain ar y pwyllgor rhanbarthol.  Mae angen ethol ar gyfer pob un o’r 81 o gynrychiolwyr sirol, ac mae Gwlân Prydain yn gwahodd enwebiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn cynrychioli ffermwyr eu siroedd eu hunain.

Ceir manylion llawn am rôl Cynrychiolydd Sirol yma.

Nodyn atgoffa am randdirymiad Glastir – tywydd sych a sychder

Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster bodloni gofynion ei gontract Glastir ofyn am randdirymiad neu lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein.

Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gall fod angen gwneud cais am randdirymiad yn cynnwys:

Cadarnhau achosion o Ffliw Adar

Mae dau achos newydd o Ffliw Adar wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ar 5ed a 9fed Medi.  Cafodd yr achos ar 5ed Medi ei gadarnhau ar eiddo ger Arthog yng Ngwynedd, a’r llall ar eiddo ger Aberdaugleddau, Sir Benfro ar 9fed Medi.

Mae Parth Gwarchod 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km wedi’u sefydlu o amgylch y ddau leoliad.

Dyma’r chweched a’r seithfed achos o HPAI H5N1 a gadarnhawyd yng Nghymru ers mis Hydref y llynedd.  Mae’r achosion newydd yn tanlinellu’r ffaith bod yna berygl o du’r clefyd o hyd, a gofynnir i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill i roi mesurau bioddiogelwch trylwyr ar waith.

Nodyn atgoffa i gofrestru neu adnewyddu esemptiadau gwastraff

Mae gofyn cael esemptiadau gwastraff ar gyfer gweithgareddau rheoli gwastraff graddfa fach ar ffermydd, gan gynnwys llosgi toriadau gwrychoedd, defnyddio rwbel ar gyfer traciau fferm, a defnyddio hen deiars ar ben claddfeydd silwair.

Mae cofrestriadau Esemptiadau Gwastraff yn para am 3 blynedd ac erbyn hyn gellir eu hadnewyddu hyd at fis cyn iddynt ddod i ben.  Gallwch gofrestru neu adnewyddu’r holl esemptiadau gwastraff ar eich fferm yn rhad ac am ddim.

I wirio cofrestriad presennol, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gallwch chwilio drwy roi enw’r fferm neu enw deiliad yr esemptiad.

Arolwg ymchwil i ffermio sy’n ystyriol o natur

Mae UAC wedi derbyn y cais canlynol gan Ms Maryam Grassly, myfyriwr Daearyddiaeth sydd wrthi’n ysgrifennu traethawd ar yr hyn sy’n ysgogi gweithwyr tir i fabwysiadu arferion sy’n ystyriol o natur.

Mae Maryam yn cynnal prosiect ymchwil ar yr hyn sy’n ysgogi gweithwyr tir i fabwysiadu arferion sy’n ystyriol o natur, ond mae’n gobeithio y bydd yr ymchwil yn cael effaith ehangach o ran gwneud y newid/parhau i weithio’r tir yn gynaliadwy yn fwy teg i weithwyr tir.

I gyfrannu at yr ymchwil hwn, gofynnir i ffermwyr gwblhau arolwg 10-15 munud: https://forms.office.com/r/Dp84CHjHg3 

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Medi 2022

CLICIWCH yma i weld dyddiadau ffenestr Mynegi Diddordeb mis Medi 2022

Y Senedd ar fin trafod adroddiad Pwyllgor ETRA ar y rheoliadau Adnoddau Dŵr

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021, disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb erbyn 14eg Medi ac mae dadl wedi’i threfnu wedi hynny yn y Cyfarfod Llawn ar 21ain Medi 2022.

Mewn ymateb i’w gyhoeddi ar 8fed Mehefin 2022, mae UAC wedi croesawu’r adroddiad ac wedi galw am roi iddo’r sylw a’r parch mae’n ei haeddu, a bod yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu’n llawn.

Er enghraifft, Argymhelliad 1, sy’n dweud y “dylai Llywodraeth Cymru ail-gyflwyno’r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i ffermwyr glaswelltir cymwys daenu hyd at 250 kg yr hectar o nitrogen”, nas cynhwyswyd yn y rheoliadau cyn iddynt gael eu gosod o flaen y Senedd flaenorol yn 2021, heb unrhyw fath o rybudd nac esboniad.

UAC yn galw am agwedd ragweithiol tuag at effeithiau tywydd sych a sychder

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd Gymru 58% o’r glawiad disgwyliedig yn ystod Gorffennaf, er nad oedd hwnnw wedi’i ddosbarthu’n gyfartal rhwng dalgylchoedd, gan amrywio o 29% yn y Cymoedd a Bro Morgannwg i 74% yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod y pum mis o Fawrth i Orffennaf, cafwyd 61% o’r glawiad cyfartalog yng Nghymru. Gwelwyd yr unig gyfnodau sychach dros y can mlynedd diwethaf yn 1984 ac 1976.

Ar 19eg Awst 2022, daeth Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (TUB) neu ‘waharddiad pibau dyfrhau’ i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ddatgan statws o sychder yn nalgylchoedd afonydd yn Ne Orllewin Cymru.

Cynnydd o ran Diwygio Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd ar fin dechrau’r broses o fabwysiadu’r Cynlluniau Strategol Cenedlaethol ar gyfer aelod-wladwriaethau cyntaf yr UE. Mae’r cynlluniau wedi wynebu nifer o rwystrau yn dilyn y rhyfel yn Wcráin, gan arwain at newidiadau yn sgil pryderon ynghylch diogelwch y cyflenwad bwyd. Trwy’r cynlluniau hyn, bydd gwledydd yn gosod sut maent yn bwriadu bodloni’r 9 amcan ar gyfer yr UE gyfan sydd i ddechrau yn 2023, gan ddefnyddio offerynnau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a chan ymateb i anghenion penodol eu ffermwyr a’u cymunedau gwledig ar yr un pryd.

Mae pum aelod-wladwriaeth (Denmarc, Ffrainc, Portiwgal, Gwlad Pwyl a Sbaen) wedi dechrau ar y broses o gael eu cynlluniau wedi’u cymeradwyo gan Gomisiwn yr UE. Ymhlith y blaenoriaethau a osodwyd yng Nghynllun Strategol Ffrainc y mae dyblu ardaloedd organig erbyn 2027, a defnyddio cyllid PAC i arallgyfeirio cnydau a phlannu gwrychoedd ar gyfer bioamrywiaeth a storio carbon, tra bod prif newid Gwlad Pwyl yn ymwneud â dyblu’r gwariant ar gymorthdaliadau lles anifeiliaid. Mae cynllun strategol Sbaen yn cynnwys €700 miliwn y flwyddyn ar gyfer taliadau cysylltiedig i gefnogi sectorau sydd mewn trafferth, megis ffermydd da byw dwys, a bydd mwy o gyllid ar gael hefyd ar gyfer gwartheg llaeth a geifr.

Gyda golwg ar yr 19 o aelod-wladwriaethau sydd ar ôl, sydd heb ddechrau eu proses gymeradwyo ffurfiol eto, mae’r Comisiwn wedi dweud y bydd y cyfan wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, gyda nifer ar fin dechrau’r broses yn fuan iawn.

Cymorth dros dro i ffermwyr yn Lloegr

Ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd gyhoeddi amodau sychder dros rannau helaeth o Loegr ar 16eg Awst, mae Defra wedi cyhoeddi bod ffermwyr a pherchnogion tir sy’n rhan o gynlluniau Stiwardiaeth Cefn Gwlad a Stiwardiaeth Amgylcheddol wedi derbyn hawddfreintiau dros dro ar amryw o opsiynau gwahanol, o 17eg Awst hyd ddiwedd y flwyddyn.

Bwriad y cam hwn gan Defra yw helpu i liniaru prinder gwasarn, porthiant, glaswellt neu gnydau porthi, ac mae’n berthnasol ar gyfer Lloegr yn unig.

Mae’r hawddfreintiau dros dro’n caniatáu i ffermwyr dorri neu bori ardaloedd at eu defnydd eu hunain ac i rannu â’r gymuned ehangach. Mae lleiniau clustogi, lleiniau blodau cymysg a chorneli caeau wedi’u cynnwys yn yr opsiwn i dorri neu bori, ymhlith nifer o opsiynau eraill. Gellir pori cnydau bresych yn gynnar ac mae hawddfreintiau eraill yn caniatáu defnyddio porthiant atodol ar laswelltir mewnbwn isel iawn.

Crynodeb o newyddion Awst 2022

i) ‘Beef + Lamb New Zealand’ yn bryderus ynghylch ffermio carbon

Mae ‘Beef + Lamb New Zealand’ wedi dweud bod y cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth na fydd coed egsotig yn cael eu heithrio bellach o’r Cynllun Masnachu Allyriadau yn gam yn ôl o ran mynd i’r afael â’r broblem ‘hynod ddifrifol’ o werthu ffermydd defaid a chig eidion, a bod y llywodraeth wedi ‘colli rheolaeth’ ar y newid i ffermio carbon.

Yn ôl Beef + Lamb New Zealand, mae ffigurau Mehefin 2022 yn dangos bod caniatâd wedi’i roi dan y cynllun prynu untro arbennig i greu coedwigaeth (‘special forestry one-off purchase’) i brynu bron 2300 hectar o dir i’w droi’n goedwigaeth yn Ynys y Gogledd.

 

ii) Ffermwyr Meirionnydd yn rhoi cynnig ar archwilio carbon

Mae grŵp o ffermwyr sy’n aelodau o grŵp trafod Cyswllt Ffermio ym Meirionnydd wedi dechrau archwilio carbon eu ffermydd, gan ddefnyddio offeryn archwilio carbon.

Bydd yr offeryn yn archwilio pob rhan o’u busnesau, o’u defnydd tanwydd i ffrwythlondeb eu da byw.

Nod y prosiect yw addysgu ffermwyr am eu hôl troed carbon presennol, a chreu cynllun gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel bo angen.

 

iii) Gwerthiant archfarchnadoedd yn cynyddu wrth i chwyddiant prisiau nwyddau fwrw 10%

Yn ôl ffigurau diweddaraf Kantar, mae chwyddiant prisiau nwyddau oddeutu 10% ar hyn o bryd, sef yr ail lefel uchaf o chwyddiant prisiau nwyddau a gofnodwyd ers 2008.

Mae gwerthiant archfarchnadoedd hefyd wedi cynyddu 0.1%, gan godi am y tro cyntaf ers Ebrill 2021, serch bod defnyddwyr erbyn hyn yn wynebu cynnydd o £454 y flwyddyn yn eu biliau archfarchnad.

Effeithiau tywydd sych a chyfnodau o sychder ar amaethyddiaeth

Yn ôl UAC, cafodd Gymru 58% o’r glawiad disgwyliedig yn ystod Gorffennaf, er nad oedd hwnnw wedi’i ddosbarthu’n gyfartal rhwng dalgylchoedd, gan amrywio o 29% yn y Cymoedd a Bro Morgannwg i 74% yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod y pum mis o Fawrth i Orffennaf, cafwyd 61% o’r glawiad cyfartalog yng Nghymru.  Gwelwyd yr unig gyfnodau sychach dros y can mlynedd diwethaf yn 1984 ac 1976.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr ar draws Cymru’n cael eu heffeithio gan y cyfnod hir o dywydd sych mewn un ffordd neu’r llall.  Mae hyn ar ben effeithiau’r rhyfel yn Wcráin, gyda llawer yn dewis defnyddio llai o wrtaith eleni o ganlyniad.

Cyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru’n lansio cam nesaf y cyd-ddylunio i roi cyfle i ffermwyr i roi adborth ar y cynigion diweddaraf ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae ffermwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd gwahanol gan gynnwys

  • Gweithdai
  • Cyfweliadau
  • Arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd 15 i 20 munud i’w gwblhau ac mae ar agor tan 31ain Hydref 2022.  Mae ar gael yma a gellir ei gwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.

Bydd y gweithdai’n dechrau yn yr hydref, a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2023.

I gofrestru’ch diddordeb, cliciwch yma neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â ffermwyr, gall grwpiau a sefydliadau eraill a rhai nad ydynt yn ffermwyr gymryd rhan drwy lenwi ffurflen adborth, a fydd ar gael ar y wefan yn fuan.

UAC yn anrhydeddu elusen wledig â gwobr allanol am gyfraniad eithriadol i amaethyddiaeth

Anrhydeddodd UAC elusen iechyd meddwl wledig â’i gwobr allanol am wasanaethau i amaethyddiaeth yn nerbyniad y Llywydd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.

Cafodd Tir Dewi ei sefydlu gan yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi a’r Esgob Wyn yn 2015, wrth iddi gydnabod yr angen difrifol a chynyddol i helpu ffermwyr oedd yn mynd trwy gyfnodau anodd.

Gyda chyllid hael gan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi) a Chronfa Cefn Gwlad y Tywysog, llwyddodd Eileen i sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth a gwasanaeth cymorth gwerthfawr, un ai dros y ffôn neu ar y fferm, ar gyfer ffermwyr yng Ngorllewin Cymru.

Mae Tir Dewi wedi helpu cannoedd o ffermwyr a’u teuluoedd.  Gall ffermwyr sydd mewn angen ledled Cymru gael mynediad at wasanaethau Tir Dewi.

Mae mwy o wybodaeth am Tir Dewi a sut i gysylltu â nhw ar gael yma.

Helpwch i siapio Polisi Pridd i Gymru yn y dyfodol i reoli priddoedd yn gynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu Datganiad Polisi Pridd i osod ei safbwynt ar briddoedd amaethyddol.  Bydd y Datganiad Polisi Pridd yn cynnwys cyfleoedd, bygythiadau a heriau sicrhau pridd cynaliadwy.

Am fod 80% o arwynebedd tir Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, mae’n bwysig bod ffermwyr yn darparu mewnbwn ar ei ddatblygiad gyda’u gwybodaeth a’u harbenigedd.

Hoffai Llywodraeth Cymru glywed gan ffermwyr ledled Cymru sy’n fodlon cymryd rhan mewn gweithdai gydag ADAS, er mwyn deall eich profiad o reoli pridd a’ch persbectif ar ganfyddiadau’r Adolygiad o Dystiolaeth Pridd.

Cynhelir gweithdai yn Awst a Medi yn para hyd at ddwy awr.

I gofrestru’ch diddordeb ac i gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Awst 2022

Cynllun

Crynodeb

Dyddiadau ffenestri

Llacio Rheolau Glastir

Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster cwrdd â gofynion ei gontract Glastir ofyn am lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein.

Gellir gwneud cais i lacio’r rheolau ar unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir ac ystyrir y ceisiadau fesul achos.

Dylid darparu manylion yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y cais.  Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais.

FODD BYNNAG, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd yn rhaid fforffedu’r taliad perthnasol ar y parsel tir dan sylw.

 

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.

Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir 

Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd.  Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.

Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb).

Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022

Y Cynllun Troi’n Organig

Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig.  Bydd un ffenestr mynegi diddordeb yn unig.

Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd.  Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol.

Rhaid cynnwys  Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol.

Mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/cynllun-troin-organig 

18fed Gorffennaf – 26ain Awst 2022

Grantiau Bach –  Amgylchedd

Mae cyllid hyd at £7,500 ar gael i reolwyr tir a busnesau fferm yng Nghymru ar gyfer prosiectau gyda chanlyniadau amgylcheddol buddiol.

Amcanion y cynllun yw cynorthwyo i gyflenwi prosiectau sydd o fudd i’r amgylchedd dan y themâu carbon, dŵr, a’r dirwedd a phryfed peillio.

Mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/grantiau-bach-amgylchedd

24ain Awst 2022 – 5ed Hydref 2022

Coedwig Genedlaethol i Gymru - Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Mae’r cynllun ar agor unwaith eto i berchnogion a rheolwyr tir, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw.  Bydd yn rhoi cymorth i bobl i greu coetiroedd newydd a/neu wella ac ehangu coetiroedd presennol yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Grantiau o £40,000 i £250,000 a hyd at 100% o arian cyfalaf a refeniw.

Mae manylion llawn ar gael yma.

Dylai unrhyw brosiectau sy’n golygu creu coetir o dros ddwy hectar wneud cais i Gynllun Creu Coetir Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais am arian grant TWIG.

Ffurflen Ymholiad  Prosiect yn cau 14eg Hydref 2022

Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (cnydau a heuir yn y gwanwyn)

Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru.  Mae’r cynllun yn cynnig cymorth i dyfu a defnyddio cnydau, all arwain at welliannau ym mherfformiad amgylcheddol busnes fferm.

Amcanion y cynllun yw cynorthwyo ffermwyr i:

  • Leihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr
  • Addasu i’r newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm yn fwy cydnerth
  • Gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd
  • Cyfrannu at y nod o wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth gynhenid Cymru.

Mae cnydau a gweithgaredd sy’n cael cymorth drwy’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig buddiannau clir a mesuradwy i’r amgylchedd a’r busnes fferm.

Yr uchafswm grant a ddyfarnir yw £5,000.

Mae’r isafswm grant a ddyfarnir yn cyfateb i’r gyfradd dalu ar gyfer 1 hectar o gnwd cymwys.

Gall eich cais fod yn uwch na’r uchafswm grant.  Os caiff eich mynegiant o ddiddordeb ei ddewis, bydd y cais dan sylw’n cael ei gapio i’r uchafswm o £5,000.

Mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/tyfu-er-mwyn-yr-amgylchedd

3ydd Hydref – 11eg Tachwedd 2022

PWYSIG

Ni fydd unrhyw estyniadau i’r dyddiadau cau ar gyfer hawlio unrhyw un o’r cynlluniau uchod oherwydd y cyfyngiadau ar ddyrannu cyllideb.  O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i bobl  archebu eitemau unwaith y byddant wedi derbyn cynnig o gontract, a chyn derbyn y contract.

Maent yn cynghori pobl i archebu, neu o leiaf i wneud ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod eitemau’n cael eu dosbarthu mewn pryd neu’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen.  Os na ellir gwneud hynny, a bod tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu i gadarnhau’r rhesymau pam, gall ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r cynllun ac ni fyddant yn cael eu heithrio o rowndiau yn y dyfodol.

Os byddant yn derbyn y contract ac yna’n methu â bodloni’r amodau o fewn yr amserlen berthnasol, mi allant gael eu heithrio o rowndiau’r cynllun yn y dyfodol.

Cynigion Bras Cynllun Ffermio Cynaliadwy ‘ar y trywydd’ iawn medd UAC

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mae cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar  gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy ‘ar y trywydd iawn’ ond bod yna nifer o bryderon o hyd am rai o’r manylion.

Bydd y ddogfen ‘Cynigion Ffermio Cynaliadwy:  Cynigion Bras ar gyfer 2025’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 6ed Gorffennaf, yn gosod sail trafodaeth bellach ar y cynllun a fydd yn disodli cynlluniau Taliad Sylfaenol a Glastir Cymru o 2025.

Mae UAC yn croesawu’r meysydd hynny o’r cynigion sydd wedi newid i adlewyrchu pryderon a bwysleisiwyd gan yr Undeb mewn ymateb i gynigion blaenorol.

UAC yn galw ar Lywodraethau’r DU i daclo pum maes allweddol i liniaru sefyllfa defnyddwyr a sicrhau diogelwch ein cyflenwadau bwyd ac ynni

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi lansio ‘cynllun pum pwynt’ y dylai Llywodraethau’r DU ei roi ar waith, ym marn yr Undeb, i daclo effeithiau rhyfel Wcráin a ffactorau eraill ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr.

Mae rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin wedi gwaethygu effeithiau parhaus y pandemig a Brexit, gan roi pwysau economaidd mawr ar ddefnyddwyr a busnesau a chreu argyfwng bwyd byd-eang.

Mi fydd llawer o’r dylanwadau byd-eang sy’n effeithio ar gynhyrchwyr a defnyddwyr ar hyn y bryd tu hwnt i reolaeth Llywodraethau’r DU, ond mae yna, serch hynny, bosibilrwydd o gymryd camau sylweddol a fydd yn rhoi ystyriaeth go iawn i fuddiannau hirdymor ffermwyr, gan helpu hefyd dros y tymor byr.

Cytundeb Masnach y DU-Seland Newydd dros ddeugain gwaith yn waeth i ddiwydiant defaid y DU na chytundeb yr UE-Seland Newydd

Mae’r cynnydd yng ngwota mewnforio cig defaid Seland Newydd yn ystod blwyddyn gyntaf cytundebau masnach newydd a arwyddwyd gan y DU a’r UE dros ddeugain gwaith yn uwch fesul pen y boblogaeth yn y DU o’i gymharu â’r Undeb Ewropeaidd, sy’n dangos methiant Llywodraeth y DU i ddiogelu amaethyddiaeth y DU o fewn trafodaethau masnach, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC)

Mi fyddai cytundeb masnach UE-Seland Newydd a gytunwyd mewn egwyddor yn ddiweddar yn caniatáu mewnforio 5,429 tunnell ychwanegol o gig defaid yn ddi-doll i’r UE yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb, tra bod y ffigur cyfatebol ar gyfer y DU yn y cytundeb a gyhoeddwyd yn Chwefror eleni yn 35,000 o dunelli.

Mi fyddai cynnydd y DU o ran y cwota di-doll o gig defaid o Seland Newydd bron chwe gwaith a hanner yn uwch yn ystod y flwyddyn gyntaf na’r hyn a sicrhawyd gan yr UE.

Cynlluniau drafft UAC ar gyfer Grwpiau Diwydiant TB yn dilyn Datganiad y Gweinidog

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ailadrodd ei galwad i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y diwydiant i archwilio Prynu Gwybodus yn ogystal â dyfodol taliadau Iawndal TB Gwartheg, yn sgil cyhoeddi datganiad y Gweinidog Materion Gwledig am y rhaglen i ddileu TB.

Ymhlith y cynlluniau TB newydd a amlinellwyd yn y datganiad y mae polisïau a allai weld defnydd o brofwyr lleyg ar gyfer profion TB, darparu gwybodaeth TB orfodol yn y man gwerthu, a newidiadau sylweddol i’r ffordd y telir iawndal TB.

Mae UAC yn falch bod nifer o’r pryderon a godwyd yn ymateb 27 tudalen yr Undeb i’r Rhaglen Ddiwygiedig i Ddileu TB wedi cael gwrandawiad gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r Undeb, dro ar ôl tro, wedi galw am gynnwys y diwydiant yn nyfodol y polisïau iawndal TB a Phrynu Gwybodus, ac felly mae datganiad y Gweinidog y bydd yna drafodaeth bellach gyda’r diwydiant ar y materion pwysig hyn i’w groesawu.

Crynodeb o newyddion Gorffennaf 2022

i) Rhai o gynlluniau gwariant amaeth y UE yn agored i dwyll yn ôl ECA

Mae adroddiad archwiliad diweddar a gyhoeddwyd gan Lys Archwilwyr Ewrop (ECA) yn dweud bod rhai o gynlluniau gwariant amaeth yr UE yn agored i risg o dwyll yn sgil camddehongli rhai o’r rheolau.

Mae’r prif risgiau a nodir yn gysylltiedig â ‘chipio tir’ anghyfreithlon mewn gwledydd gyda chynlluniau cofrestru tir gwan, a pherchnogaeth aneglur.  Gall twyllwyr hefyd geisio caffael tir at ddiben hawlio taliadau arno’n unig, heb gynnal unrhyw weithgarwch amaethyddol.

Mae’r Comisiwn wedi derbyn holl argymhellion yr ECA.

 

ii) Allforion bwyd a diod Cymru’n cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021

Cyrhaeddodd allforion bwyd a diod Cymru'r lefel uchaf erioed, sef £641 miliwn yn 2021, gan godi 16% o un flwyddyn i’r llall, y cynnydd mwyaf ar draws pedair gwlad y DU.

Y categori gwerth uchaf oedd cig a chynnyrch cig, ar £187 miliwn, gydag wyth allan o’r deg cyrchfan uchaf ar gyfer holl allforion bwyd a diod Cymru o fewn yr UE.

 

iii) Laca’n rhybuddio y bydd llai o gig yn y deiet ysgol oherwydd y cynnydd mewn prisiau

Mae Laca, sef cymdeithas arlwywyr bwyd ysgol y DU, y mae ei haelodau’n darparu 80% o brydau ysgol yng Nghymru a Lloegr, wedi dweud bod cig ffres wedi’i dynnu oddi ar nifer o fwydlenni ysgol oherwydd y cynnydd mewn prisiau.

Erbyn hyn mae ysgol gyffredin yn wynebu cynnydd o 20% yng nghostau bwyd, o’i gymharu â ffigurau Ebrill 2022.

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei chynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy diweddaraf ac yn agor cam nesaf y cyd-ddylunio

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynigion diweddaraf ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru o 2025 ymlaen.

Bydd y ddogfen – sydd i’w gweld yma – yn ffurfio sail cam nesaf y cyd-ddylunio a agorodd ar gyfer cofrestru ar 6ed Gorffennaf 2022.

Mae UAC o’r farn bod y cynigion ‘ar y trywydd iawn’ ond mae pryderon o hyd ynghylch rhai o’r manylion.  Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau bras ymlaen ac erbyn hyn mae ganddi fframwaith cyffredinol sy’n ddigon tebyg i’r hyn mae’r Undeb wedi’i gynnig. 

Awdurdodiad Brys i Asulam ar gyfer tymor 2022

 Cyhoeddwyd Awdurdodiad Brys i ganiatáu defnydd o Asulox i reoli rhedyn ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod tymor 2022 o 1af Gorffennaf.

  • I leihau’r effaith ar adar sy’n magu, lle bo modd, dylid ei ddefnyddio ar ôl 1af Awst, neu mor hwyr yng Ngorffennaf â phosib.
  • I warchod mamaliaid, ni chaniateir ei ddefnyddio lle gwyddys bod y pathew gwinau’n bridio.
  • Mae gwasgaru o’r awyr wedi’i awdurdodi ar yr amod bod yna drwydded chwistrellu o’r awyr; bydd y rheolydd yn darparu templedi ffurflenni cais.

Trwyddedau Cyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt yn dod i rym

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi’r pedair Trwydded Gyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt, a ddaeth i rym ar 1af Gorffennaf 2022.

Ceir rhestr lawn o’r Trwyddedau Cyffredinol yma sy’n cynnwys:

Ymgyrch ‘#HowYouWeathering?’ RABI

Eleni, mae’r Sefydliad Amaethyddol Brenhinol Llesiannol (RABI) yn lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol o’r enw ‘HowYouWeathering?’

Am fod ffermwyr bob amser yn siarad am y tywydd, mae RABI yn annog pobl i fod yr un mor onest wrth drafod eu hiechyd meddwl eu hunain.

I gefnogi’r ymgyrch, mae RABI yn gofyn i bobl o’r gymuned ffermio ac arbenigwyr y sector i godi mwy o ymwybyddiaeth, a helpu i gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag gofyn am help a chael cymorth arbenigol.

Sut allwch chi gymryd rhan:

  • Anfonwch fideo byr yn rhannu’ch cynghorion ar gyfer iechyd meddwl positif;

NEU,

  • Fideo’n rhannu’ch barn ynghylch pam mae hi mor bwysig siarad am iechyd a lles meddyliol


Anfonwch unrhyw fideos perthnasol i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. i gymryd rhan.

Arolwg Tir Coed o’r sgiliau fydd eu hangen i reoli tir yn y dyfodol

Mae Tir Coed wedi lansio arolwg er mwyn i ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n rheoli tir roi eu barn ar y sgiliau y dylai Tir Coed eu haddysgu i gwrdd ag anghenion rheoli tir yn y dyfodol.

Er bod yr arolwg yn canolbwyntio’n bennaf ar anghenion sgiliau sefydliadau’r sector amaethyddiaeth, garddwriaeth, cyhoeddus, preifat a rheoli tir cymunedol yng Ngheredigion yn y dyfodol, mi fydd barn rheolwyr tir ledled Cymru’n helpu Tir Coed i sicrhau bod ei gyrsiau hyfforddiant seiliedig ar y tir yn addas i’r diben.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/8XLR2GL (Grwpiau Cymunedol Gwledig sy’n rheoli tir)

https://www.surveymonkey.co.uk/r/8M5BYPQ (Ffermwyr a Thirfeddianwyr)

Arolwg o weithio yn niwydiant amaeth Cymru – ymchwil marchnad gyda thâl o £100

Mae MRFGR yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn cyfweliad ymchwil 60 munud ar y testun gweithio yn y diwydiant amaeth.  Bydd yr ymchwil yn edrych yn benodol ar eithriadau a/neu drwyddedau ar gyfer gwastraff peryglus a sut y gellir gwella’r broses gofrestru.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn £100 i ddiolch iddyn nhw am eu hamser.


Ceir mwy o fanylion yma: https://mrfgrresponses.com/index.php/916267