Mae’r Comisiwn Ewropeaidd ar fin dechrau’r broses o fabwysiadu’r Cynlluniau Strategol Cenedlaethol ar gyfer aelod-wladwriaethau cyntaf yr UE. Mae’r cynlluniau wedi wynebu nifer o rwystrau yn dilyn y rhyfel yn Wcráin, gan arwain at newidiadau yn sgil pryderon ynghylch diogelwch y cyflenwad bwyd. Trwy’r cynlluniau hyn, bydd gwledydd yn gosod sut maent yn bwriadu bodloni’r 9 amcan ar gyfer yr UE gyfan sydd i ddechrau yn 2023, gan ddefnyddio offerynnau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a chan ymateb i anghenion penodol eu ffermwyr a’u cymunedau gwledig ar yr un pryd.
Mae pum aelod-wladwriaeth (Denmarc, Ffrainc, Portiwgal, Gwlad Pwyl a Sbaen) wedi dechrau ar y broses o gael eu cynlluniau wedi’u cymeradwyo gan Gomisiwn yr UE. Ymhlith y blaenoriaethau a osodwyd yng Nghynllun Strategol Ffrainc y mae dyblu ardaloedd organig erbyn 2027, a defnyddio cyllid PAC i arallgyfeirio cnydau a phlannu gwrychoedd ar gyfer bioamrywiaeth a storio carbon, tra bod prif newid Gwlad Pwyl yn ymwneud â dyblu’r gwariant ar gymorthdaliadau lles anifeiliaid. Mae cynllun strategol Sbaen yn cynnwys €700 miliwn y flwyddyn ar gyfer taliadau cysylltiedig i gefnogi sectorau sydd mewn trafferth, megis ffermydd da byw dwys, a bydd mwy o gyllid ar gael hefyd ar gyfer gwartheg llaeth a geifr.
Gyda golwg ar yr 19 o aelod-wladwriaethau sydd ar ôl, sydd heb ddechrau eu proses gymeradwyo ffurfiol eto, mae’r Comisiwn wedi dweud y bydd y cyfan wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, gyda nifer ar fin dechrau’r broses yn fuan iawn.
Mae Cymdeithas Ffermwyr Iwerddon wedi beirniadu cynllun drafft Iwerddon, a hynny’n bennaf am ei fod yn cynnwys cynlluniau i ddileu’r 25% o Daliad Sylfaenol i’w ddefnyddio ar gyfer eco-gynlluniau newydd, gan honni y bydd hynny’n golygu bod nifer o ffermwyr cig eidion, defaid a thir âr yn cael anhawster dal ati.
Nod y Comisiwn yw gweld 25% o dir yr UE yn cael ei ffermio’n organig erbyn 2030, sy’n peri pryder i rai aelod-wladwriaethau, gan gynnwys Rwmania, sydd wedi dweud y bydd yn darged anodd iawn ei fwrw oherwydd prisiau bwyd a chostau mewnbwn uchel. Mae Comisiwn yr UE hefyd wedi argymell bod cynllun Gwlad Tsiec yn canolbwyntio mwy ar droi’n organig.
Cafodd benderfyniad Comisiwn yr UE i ohirio’r gofynion o ran cylchdroi cnydau a thir braenar o fewn y CAP newydd am flwyddyn arall ei groesawu ar y cyfan, gydag 16 o aelod-wladwriaethau’n cefnogi estyniad i’r egwyddor o lacio rheolau. Fodd bynnag, mae rhai elfennau o’r PAC newydd yn destun pryder o hyd i rai aelod-wladwriaethau. Mae’r targedau sy’n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol i leihau defnydd a risg plaladdwyr cemegol o 50% erbyn 2030 a defnydd o blaladdwyr mwy peryglus ar gyfer pob aelod-wladwriaeth yn bryder arbennig i Fwlgaria, sy’n honni nad oes unrhyw ddata cywir ar y defnydd presennol o gynnyrch o’r fath, ac felly dylid gohirio unrhyw dargedau nes bod y data hwn ar gael.
Mae’r pryderon eraill ymhlith nifer o aelod-wladwriaethau’n cynnwys dosbarthu taliadau rhwng ffermydd o wahanol faint ac allyriadau amaethyddol.