Cymorth dros dro i ffermwyr yn Lloegr

Ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd gyhoeddi amodau sychder dros rannau helaeth o Loegr ar 16eg Awst, mae Defra wedi cyhoeddi bod ffermwyr a pherchnogion tir sy’n rhan o gynlluniau Stiwardiaeth Cefn Gwlad a Stiwardiaeth Amgylcheddol wedi derbyn hawddfreintiau dros dro ar amryw o opsiynau gwahanol, o 17eg Awst hyd ddiwedd y flwyddyn.

Bwriad y cam hwn gan Defra yw helpu i liniaru prinder gwasarn, porthiant, glaswellt neu gnydau porthi, ac mae’n berthnasol ar gyfer Lloegr yn unig.

Mae’r hawddfreintiau dros dro’n caniatáu i ffermwyr dorri neu bori ardaloedd at eu defnydd eu hunain ac i rannu â’r gymuned ehangach. Mae lleiniau clustogi, lleiniau blodau cymysg a chorneli caeau wedi’u cynnwys yn yr opsiwn i dorri neu bori, ymhlith nifer o opsiynau eraill. Gellir pori cnydau bresych yn gynnar ac mae hawddfreintiau eraill yn caniatáu defnyddio porthiant atodol ar laswelltir mewnbwn isel iawn.



Mi fydd angen i ffermwyr lenwi ffurflen addasu gofynion dros dro, a chadw cofnodion gweithredu a phori ar gyfer parseli, i’w dangos yn nes ymlaen os bydd angen.