Crynodeb o newyddion Awst 2022

i) ‘Beef + Lamb New Zealand’ yn bryderus ynghylch ffermio carbon

Mae ‘Beef + Lamb New Zealand’ wedi dweud bod y cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth na fydd coed egsotig yn cael eu heithrio bellach o’r Cynllun Masnachu Allyriadau yn gam yn ôl o ran mynd i’r afael â’r broblem ‘hynod ddifrifol’ o werthu ffermydd defaid a chig eidion, a bod y llywodraeth wedi ‘colli rheolaeth’ ar y newid i ffermio carbon.

Yn ôl Beef + Lamb New Zealand, mae ffigurau Mehefin 2022 yn dangos bod caniatâd wedi’i roi dan y cynllun prynu untro arbennig i greu coedwigaeth (‘special forestry one-off purchase’) i brynu bron 2300 hectar o dir i’w droi’n goedwigaeth yn Ynys y Gogledd.

 

ii) Ffermwyr Meirionnydd yn rhoi cynnig ar archwilio carbon

Mae grŵp o ffermwyr sy’n aelodau o grŵp trafod Cyswllt Ffermio ym Meirionnydd wedi dechrau archwilio carbon eu ffermydd, gan ddefnyddio offeryn archwilio carbon.

Bydd yr offeryn yn archwilio pob rhan o’u busnesau, o’u defnydd tanwydd i ffrwythlondeb eu da byw.

Nod y prosiect yw addysgu ffermwyr am eu hôl troed carbon presennol, a chreu cynllun gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel bo angen.

 

iii) Gwerthiant archfarchnadoedd yn cynyddu wrth i chwyddiant prisiau nwyddau fwrw 10%

Yn ôl ffigurau diweddaraf Kantar, mae chwyddiant prisiau nwyddau oddeutu 10% ar hyn o bryd, sef yr ail lefel uchaf o chwyddiant prisiau nwyddau a gofnodwyd ers 2008.

Mae gwerthiant archfarchnadoedd hefyd wedi cynyddu 0.1%, gan godi am y tro cyntaf ers Ebrill 2021, serch bod defnyddwyr erbyn hyn yn wynebu cynnydd o £454 y flwyddyn yn eu biliau archfarchnad.