Effeithiau tywydd sych a chyfnodau o sychder ar amaethyddiaeth

Yn ôl UAC, cafodd Gymru 58% o’r glawiad disgwyliedig yn ystod Gorffennaf, er nad oedd hwnnw wedi’i ddosbarthu’n gyfartal rhwng dalgylchoedd, gan amrywio o 29% yn y Cymoedd a Bro Morgannwg i 74% yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod y pum mis o Fawrth i Orffennaf, cafwyd 61% o’r glawiad cyfartalog yng Nghymru.  Gwelwyd yr unig gyfnodau sychach dros y can mlynedd diwethaf yn 1984 ac 1976.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr ar draws Cymru’n cael eu heffeithio gan y cyfnod hir o dywydd sych mewn un ffordd neu’r llall.  Mae hyn ar ben effeithiau’r rhyfel yn Wcráin, gyda llawer yn dewis defnyddio llai o wrtaith eleni o ganlyniad.

Mae aelodau UAC sydd â’r modd i wneud hynny yn troi at brif gyflenwadau dŵr ar gyfer eu da byw, eu cnydau, ac ar gyfer gofynion eraill megis golchi’r parlwr, am fod eu ffynonellau dŵr preifat wedi sychu.

Mae cnydau wedi stopio tyfu, gan olygu y byddant yn cael eu cynaeafu’n gynharach a byddant yn llai o faint.  Mae nifer o ffermwyr wedi methu â gwneud ail doriad o silwair ac maent yn pori’n caeau hynny erbyn hyn, neu’n bwriadu gwneud toriadau silwair yn yr hydref os bydd amodau’r tywydd yn caniatáu.

Mae cyflwr da byw yn dirywio hefyd oherwydd y tywydd poeth, ac mae’r prisiau’n gostwng am fod mwy o anifeiliaid yn cael eu gwerthu i liniaru’r pwysau ar argaeledd porthiant yn nes ymlaen eleni ac i mewn i 2023.

Mae’r effeithiau hyn yn debygol o effeithio’n sylweddol ar lif arian ac argaeledd porthiant ar draws y DU ac Ewrop dros y gaeaf, pan nad yw pori a/neu gynaeafu porthiant yn opsiwn ymarferol.

Mae UAC wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid dros yr wythnosau diwethaf i drafod effeithiau’r tywydd sych, a pha fesurau y dylid eu cymryd i liniaru’r effeithiau ar gynnyrch amaethyddol a lles anifeiliaid:

  • Dylid cynnig grantiau i helpu ffermwyr i gasglu a storio dŵr glaw i baratoi ar gyfer cyfnodau o dywydd sych
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw ffermwyr sydd am gael rhanddirymiad ar opsiynau Glastir megis 32/32b i wneud iawn am gyfnod hir o dywydd sych yn cael eu cosbi
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried llacio rheolau Glastir i ganiatáu i ffermwyr ymestyn eu tymhorau pori i mewn i’r hydref ar ardaloedd sy’n rhan o gytundebau contractiol pan fydd mwy o laswellt ar gael
  • Dylid atal y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) dros dro i osgoi cynyddu biwrocratiaeth i ffermwyr Cymru ar adeg pan maent yn wynebu storm berffaith o ansicrwydd, pwysau o du’r hinsawdd ac effaith digwyddiadau byd-eang.

Bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (TUB) neu ‘waharddiad pibau dyfrhau’ yn dod i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin ar 19 Awst 2022. Ceir manylion llawn yma.

Mae canllawiau ar gyflenwadau dŵr preifat ar gael yma.

Mae diweddariadau tywydd sych Cyfoeth Naturiol Cymru (a ddiweddarir bob pythefnos) ar gael yma.

Mae cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ffermwyr yn ystod cyfnodau o dywydd sych ar gael yma.

Mae’r cyfyngiadau ar ddyfrhau drwy chwistrellu yn ystod tywydd sych ar gael yma.