Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, cafodd Gymru 58% o’r glawiad disgwyliedig yn ystod Gorffennaf, er nad oedd hwnnw wedi’i ddosbarthu’n gyfartal rhwng dalgylchoedd, gan amrywio o 29% yn y Cymoedd a Bro Morgannwg i 74% yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod y pum mis o Fawrth i Orffennaf, cafwyd 61% o’r glawiad cyfartalog yng Nghymru. Gwelwyd yr unig gyfnodau sychach dros y can mlynedd diwethaf yn 1984 ac 1976.
Ar 19eg Awst 2022, daeth Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (TUB) neu ‘waharddiad pibau dyfrhau’ i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ddatgan statws o sychder yn nalgylchoedd afonydd yn Ne Orllewin Cymru.
Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr ar draws Cymru’n cael eu heffeithio gan y cyfnod hir o dywydd sych mewn un ffordd neu’r llall. Mae hyn ar ben effeithiau’r rhyfel yn Wcráin, gyda llawer yn dewis defnyddio llai o wrtaith eleni o ganlyniad.
Mae aelodau UAC sydd â’r modd i wneud hynny yn troi at brif gyflenwadau dŵr ar gyfer eu da byw, eu cnydau, ac ar gyfer gofynion eraill megis golchi’r parlwr, am fod eu ffynonellau dŵr preifat wedi sychu.
Mae cnydau wedi stopio tyfu, gan olygu y byddant yn cael eu cynaeafu’n gynharach a byddant yn llai o faint. Mae nifer o ffermwyr wedi methu â gwneud ail doriad o silwair ac maent yn pori’n caeau hynny erbyn hyn, neu’n bwriadu gwneud toriadau silwair yn yr hydref os bydd amodau’r tywydd yn caniatáu.
Mae cyflwr da byw yn dirywio hefyd oherwydd y tywydd poeth, ac mae’r prisiau’n gostwng am fod mwy o anifeiliaid yn cael eu gwerthu i liniaru’r pwysau ar argaeledd porthiant yn nes ymlaen eleni ac i mewn i 2023.
Mae’r effeithiau hyn yn debygol o gael effaith sylweddol ar lif arian ac argaeledd porthiant ar draws y DU ac Ewrop dros y gaeaf, pan nad yw pori a/neu gynaeafu porthiant yn opsiwn ymarferol.
Mae UAC wedi bod wrthi’n cydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid dros yr wythnosau diwethaf i drafod effeithiau’r tywydd sych, a pha fesurau y dylid eu cymryd i liniaru’r effeithiau ar gynnyrch amaethyddol a lles anifeiliaid eleni ac i’r dyfodol.
Serch cydnabod nad oes fawr ddim y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i liniaru effeithiau’r tywydd sych, mae UAC wedi bod yn galw am lacio rheolau Glastir i ganiatáu i ffermwyr ymestyn eu tymhorau pori i mewn i’r hydref ar ardaloedd sy’n rhan o gytundebau contractiol pan fydd mwy o laswellt ar gael
Dylai ffermwyr hefyd gael y cyfle i wneud cais am randdirymiad ar opsiynau Glastir megis 32/32b i wneud iawn am gyfnodau hir o dywydd sych heb orfod aberthu eu taliadau, fel y digwyddodd yn 2018.
Mae UAC hefyd wedi bod yn galw am atal y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) dros dro i osgoi cynyddu biwrocratiaeth i ffermwyr Cymru ar adeg pan maent yn wynebu storm berffaith o ansicrwydd, pwysau o du’r hinsawdd ac effaith digwyddiadau byd-eang.
Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.